Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Credaf mai y diweddar Mr. J. D. Jones o Ruthyn oedd y cyntaf i briodi caneuon Ceiriog gyda cherddoriaeth, ac Owain Alaw yn nesaf. Ni bu Cymro. erioed mwy llygadgraff i weled talent na Mr. Jones, na pharotach i'w nhoddi a'i chefnogi. Ysgolfeistr tra llwyddianus ydoedd; a thra yr hoffid ef yn fawr gan yr holl blant dan ei ofal, ei anwyliaid ef yn eu plith oeddynt, nid epil y cyfoethogion, ond bechgyn meddylgar ac yn dwyn blagur athrylith. Efe oedd rhagflaenydd yr adfywiad cerddorol a gymerodd le yn Nghymru tua 35ain mlynedd yn ol, efe a'i bwydai â cherddoriaeth seml yn ei fabandod, megys, “Beth sy'n hardd?" a "Bedd y Dyn Tlawd," ac â chanigau ac anthemau hynod o brydferth, swynol a hawdd eu dysgu; a'r amser hwnw, efe oedd y cerddor mwyaf poblogaidd o lawer yn y Dywysogaeth. Chwibienid ei donau prydferth ar y ffordd, ar y maes, ac ar hyd llechweddau'r mynyddoedd; cenid ei ranganau ar aelwydydd y dref a'r wlad; ac ni byddai yr un cyfarfod cystadleuol yn gyflawn heb rhyw dernyn o waith y cerddor o Ruthyn. Ac heblaw bod yn cerddor rhagorol, ac ystyried mai hunan-ddysgedig ydoedd, ac nad oedd yn offerynwr, anfynych y cyfarfyddid â dyn mwy gwybodus gyda llenyddiaeth yn gyffredinol—yr oedd yn awdwr caneuon tlysion ac yn llenor gwych ei hun, yn ddyn neillduol o synwyrol, caredig a dirodres; pawb a'i hadwaenai yn ei garu; a thrwy orlafur efe a gyrhaeddodd ei fedd yn gynar-cyn bod yn llawn 42ain oed. Ac er hyn oll, bron yr unig fan y gwelir ei enw yn bresenol ydyw ar wynebddalen ei gasgliad o Salm-donau, a elwir "Llyfr Stephens a Jones;" ac eithrio hyny, y mae wedi myned mor ddi-son-am-dano a rhedynen y mynydd. Mor fuan yr annghofiwn ein cymwynaswyr! ac am ei goffadwriaeth ef gellid troi y ddihareb o chwith, a dweyd "A fyno glod bid fyw."

Yr oedd Mr. Jones gyda'r cyntaf i weled teilyng-