dod barddoniaeth Ceiriog. Efe a gyfansoddodd fiwsig i'r gân, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," ac i'r "Fenyw fach a'r Beibl mawr;" a bu llawer byd o ganu arnynt am amser maith, a chollwyd llawer o ddagrau boddhaus wrth eu gwrando gan luaws sydd erbyn hyn wedi dilyn y ddau awdwr hoff i wlad y gân ddiddagrau.
Y cerddor nesaf i "wau y gerdd â'r gân" gyda chaneuon ein bardd oedd Owain Alaw. Yr oedd perthynas agosach rhwng y ddau nag a ffyna'n gyffredin rhwng bardd a cherddor, gan eu bod yn gyfeillion mynwesol am lawer o flynyddau. Dyn rhadlon, boneddigaidd, oedd Mr. Owen; a cherddor a chantor poblogaidd. Yr oedd ei glywed yn canu, gan ddilyn ei hun ar y berdoneg, y "Boneddwr mawr o'r Bala," "Y Trên," ac eraill o'i donau ar eiriau o waith Ceiriog, yn wledd gwerth myned bellder o ffordd er ei mwynhau; a chan ei fod ef tua'r pryd hwn yn casglu ei Gems of Welsh Melody, cafodd gyfleusdra i ddefnyddio caneuon ei fardd-gyfaill yn helaeth.
Yn mhen amser byr, ymledodd clod Ceiriog fel bardd caneuol, a gofynid am ei wasanaeth gan ein cerddorion Cymreig yn Llundain—Pencerdd Gwalia a Mr. Brinley Richards; a dygir ni gan y crybwylliad hwn i gyrhaedd yr ymdrafodaeth a fu yn nghylch geiriau y gân, "God bless the Prince of Wales." Ceisiwyd yspeilio y bardd Cymreig o bob anrhydedd perthynol i'r gân boblogaidd hono oddigerth fel cyfieithydd. Honai George Linley, awdwr y penillion diawen Seisnig, mai efe oedd tad y drychfeddwl, tra yr oedd y geiriau Cymreig yn cael eu canu ar y don ddau fis cyn iddo ef gyfansoddi ei benillion; a rhaid dweyd y caswir, bu ein cydwladwr enwog, awdwr y gerddoriaeth, yn pocedu ar y mwyaf o'r clod, os nad ychydig mwy na'i ran deg o'r enillion. Hyny ydyw, mae'n debyg, fod Mr.