Nid oes yn y fugeilgerdd benigamp hon ddim ffug-geiriau bombast, teimladau "gwneud," gorchestion anhygoel, ymddyddanion ffol, a siaradach rhodresgar. Yr holl gelfyddyd sydd yma ydyw'r gelfyddyd i arddangos natur yn naturiol. Yr ydym wrth ei ddarllen megys yn gweled ei golygfeydd ac yn adnabod y cymeriadau. Yr oedd bugeiliaid Virsil, a Shenstone yn rhyw fodau clasurol, oerion, i ni amddifad o gig a gwaed; yn byw yn y gor uchelderau pell; yn ddelwau teg, ac er wedi eu llunio'n gelfydd o'r marmor puraf, neu o bres, ie, neu o aur coeth os mynwch—delwau oeddynt er hyny. Ac nid oedd ein beirdd bugeiliol ninau, os yn byw yn agosach atom—Edward Richards o Ystradmeurig a Glasynys—nemawr gwell. Ond y mae amlinellau y darluniau sydd yn Alun Mabon wedi eu tynu mor naturiol, fel y gallwn, ac yr ydym, yn eu llanw gyda ein dychymyg ein hunain. Yr ydym fel yn byw tan-yr-un-tô â'r arwr; yr ydym yn adwaen ei lais a swn ei droed. Ni a'i gwelsom ef ganwaith yn ei hugan liain, a'r ci wrth ei sawdl, yn cerdded llechwedd y mynydd; clywsom Menna yn "dweyd y drefn" yn y ffrae fythgofiadwy hono; edrychasom arni yn myned tros y bryn at ei thad, yn ei gwisg Gymreig drwsiadus hen-ffasiwn o "bais a becwn," a'i het binaclog yn bygylu gan yr ystorm o ddigofaint oedd yn dygyfor islaw. Buom yn llygaid-dystion o'r "penlinio tan yr ywen," a gwyliasom y rhosynau cochion ar fedd y plant a gruddiau'r fam yn cydedwino. Nid creadigaethau rhamantus ydynt i ni, nid hyd yn nod hanes a ddarllenir mewn newyddiadur, ond rhan o gylch ein cydnabyddiaeth. Y mae tros 25ain mlynedd wedi myned heibio er pan ddarllenasom Alun Mabon gyntaf; ac o hyny hyd yr awrhon ni welsom mewn argraff ddim mor angerddol a goddeithiol o deimladwy â'r fugeilgerdd hon, yn enwedig tua'i ddiwedd, oddigerth efallai
Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/84
Gwedd