Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein llwybr. Tra y parheir i gyfoethogi llenyddiaeth Gymreig hefo caneuon tlysion tebyg i "Ddringo'r Wyddfa," "Yr Eneth Ddall," Wele goelcerth," "Drws y nefoedd," "Peidiwch byth a d'wedyd hyny," "Y fynwent yn y coed," &c., y rhai oll a welir yn y Cant o Ganeuon, nid oes berygl y bydd farw'r iaith Gymraeg. Ychydig mewn cydmariaeth o ieithoedd y byd, os oedd ganddynt lenyddiaeth, sydd wedi marw; a cholled i lenyddiaeth y byd oedd eu marwolaeth; a cholled fwy i'r cenedloedd oedd piau hwynt. Ni ddylem ychwaith annghofio mai y dosbarth mwyaf arwynebol, difeddwl a diwerth o genedl y Cymry sydd yn trydar ar hyd yr oesau mai anfantais a cholled ini ydyw y Gymraeg. Pe difodid hi yfory nesaf, pwy fyddai ar ei enill? Nid nyni ein hunain; canys y mae'r Cymry hyny a'i collasant hi eisioes tua'r Gororau, ar gyffiniau Lloegr, wedi myned mor baganaidd ac anwybodus fel y danfonir cenhadon ar eu holau gan eu brodyr Cymreig, fel pe byddent drigolion canolbarth Affrica. Pwlpud ac awen Cymru sydd wedi cadw'r iaith yn fyw er's canrifoedd, a phan y daw diffyg ar y ddau oleuad mawrion hyn, daw gwir berygl am ei bodolaeth hithau. Os oes rhywun yn anmheu hyn, gofyned i Gymro dysgedig, cwbl hyddysg yn y ddwy iaith, pa un ai pregeth Gymraeg neu Saesneg (y ddwy yn gyfartal o ran nerth a hyawdledd) fyddai goreu ganddo; neu pa un a afaela dynaf yn ei serchiadau, darn o waith Tennyson neu o gyfansoddiad John Ceiriog Hughes. Yn ffodus, nis gellir dadwreiddio iaith fel y diwreiddir pren. Dyledswydd pob Cymro ydyw chwanegu ei wybodaeth; ac y mae dysgu iaith arall yn chwanegiad pwysig at wybodaeth pob dyn; ond y mae'r hwn a ddysgo iaith arall ar y draul o esgeuluso ei iaith ei hun mor ddireswm a hurtyn arall a dorai yn wirfoddol ei aelod ymaith er mwyn cael coes bren.