Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yn Cant o Ganeuon un darn y bu aml i ddadl rhyngom â'r awdwr parth ei syniadau. Gelwir ef, "Caethwasiaeth, neu ymgom ar yr heol rhwng y ddau S. R. [S. R. o Lanbrynmair ac S. R. o Tennessee]." Ceir ynddo lawer o ddigrifwch ffraeth ac o wawdiaith lem. Ond nid dyn i'w oganu oedd Samuel Roberts, gan ei fod, i'n tyb ni, yn ddyn da od ond od o dda. Perthynai i'r dosbarth hwnw o ddynion sydd yn rhy ddifrifol a chydwybodol i wneud cyff cler ohonynt. Chwi ellwch annghytuno â hwynt a'u gwrthwynebu, eu condemnio, ie, eu merthyru; ond y mae saethau dychan rywfodd yn mennu arnynt. A chyhuddo yr hen S. R. o bleidio'r gaethfasnach! —dyn a dreuliodd ei holl oes yma a thu draw i'r Werydd yn dadleu hawliau y ddynoliaeth orthrymedig. Na, y mae digonedd o destynau gogan i'r beirdd yn mysg plant dynion heb iddynt anelu eu saethau at wroniaid penwyn, y rhaid hyd yn nod i'w gwrthwynebwyr gydnabod eu bod yn onest os nad ydynt yn gywir. Os digiodd S. R. yn aruthr wrth y bardd, ac os bu yn lluchio ato trwy y wasg am y gweddill o'i oes, nid yw hyny unrhyw esgusawd tros yr ymosodiad. Dywedir mai un o neillduolion gwroniaid ydyw eu bod yn dra anfaddeuol. Pa fodd bynag, buom yn gresynu ganwaith fod Ceiriog erioed wedi rhoddi achlysur digofaint i awdwr "Yamba, y Gaethes Ddu."

Y cyfansoddiad meithaf yn y llyfr hwn ydyw Cantawd Tywysog Cymru. Ysgrifenwyd hono ar gais pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1862, mewn pryd fel y cai'r cerddorion amser i gystadlu ar y miwsig, ac y byddai'r gantawd fuddugol wedi ei hargraffu ac yn barod i'w chanu yn yr Eisteddfod. Yr oedd y penodiad yn un cwbl annisgwyliadwy iddo, ac yn anrhydedd i graffder y pwyllgor yn ei ddewis at y gwaith. Nid gormodiaith ydyw dweyd mai dyma y libretto oreu yn y