Gymraeg. Cystadleuodd saith ar y gerddoriaeth, ac Owain Alaw oedd y buddugol. Yr oedd ei datganiad yn un o hits yr Eisteddfod lwyddianus hono; a bu llawer o ganu arni ar ol hyny.
Ond am bertrwydd Celtaidd, nid ydym yn meddwl fod yn holl waith Ceiriog ddim mor hapus a "Penillion y Misoedd," y rhai sydd ar ddiwedd y Cant o Ganeuon. Cyfansoddwyd hwynt ar y cyntaf. i wasanaethu fel penawdiau i'r misoedd mewn Almanac a gyhoeddid yn 1860, '61, a '62. Y mae yn anhawdd dweyd pa un ai mewn dwysder neu ynte ffraethineb y rhagorant. Crynhoir synwyr ynddynt i gylch mor fychan a phe buasent wedi eu cyfansoddi yn y gynghanedd gan y cywreiniaf yn y gelfyddyd. Dyma rai ergydion ohonynt:—
Prophwydi'r tywydd:—
Mae brutwyr gwlaw yma a thraw,"
Mewn goleu'n cael eu cau:
A blwydd 'rol blwydd yn claddu
Ein holl brophwydi gau.
Gwyliwch Ebrill:—
Os gwyn fydd yr haul, os glas fydd y nen,
Os na bydd un cwmwl yn hongian uwchben-
O cofiwch mai Ebrill yw'n awr.
Os elwch o'r tŷ, rhybuddio 'ry'm ni
Fod cawod pur wleb, heb ofyn i neb,
Yn sicr o ddisgyn i lawr.
Nid i weision ffermwyr:—
Wrth olchi defaid, nid di les
Yw scrwb go dda i groen sydd nes.
Llafur a segurdod:—
Sut bynag hauir llafur ei egin welant ddydd,
Ond braenu byth wna'r segur a llygru'r man lle bydd.
Diwedd blwyddyn:—
Mae ia yn yr awel, ac ias yn y tarth,
Rhaid gadael y meinciau yn nghanol y barth.
Tyn ymaith dy 'sgidiau, os nad ydynt lân,
A thyred i'r aelwyd at ochr y tân:
Ac os yw'th 'sguboriau yn llawnion o ŷd,
Tydi yw'r dedwyddaf o bobol y byd.