Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ergyd lawchwith (Ebrill):—

Y cyntaf eto o'r mis hwn
Yw diwrnod yr ynfydion;
Gan fod y Sais mor dlawd o wyl,
Fe roddwn hon i'r Saeson.

Llawchwith ergyd (Awst):—

Y mae amaethwyr Cymru wen
Yn edrych ar eu cnydau;
Os ânt i'r capel ar y Sul,
Mae'r galon efo'r ydau.

Digwyddiad damweiniol" (gwel tudal. 59):—

Anadla'r Hydref ar y byd,
A'r ddeilen werdd dry'n felen;
Ac O mae ambell gyfaill gwan
Yn cwympo efo'r ddeilen.

Tachwedd:—

Mae gwynt y gauaf yn rhoi bloedd,
I alw ei fyddinoedd,
A breichiau'r dderwen eto'n noeth
I ymladd â'r tymhestloedd.

O ddydd i ddydd, o nos i nos,
Daeth Rhagfyr ar ein gwarthaf;
A dolen ydyw ef sy'n dal
Dolenau'r flwyddyn nesaf.

Y llyfr olaf o'i waith ei hun yn unig a gyhoeddodd pan yn Manchester oedd Y Bardd a'r Cerddor; gyda Hen Ystraeon am danynt. Fel hanesydd a chofnodydd traddodiadau yr ymddengys yn y llyfryn hwn, ac nid fel bardd, oddigerth yn y dechreu, pan y cawn ganddo y rheolau at gyfansoddi caneuon y dyfynwyd ohonynt eisoes; ac yn y diwedd, lle y ceir tair cân mewn perthynas â Thywysog Cymru. Yr oedd yn mryd Ĉeiriog er's blynyddau wneud casgliad helaethach nag yr un oedd genym cyn hyny o enwau yr hen Alawon Cymreig. Er dwyn hyn oddiamgylch, ysgrifenodd luaws o lythyrau at hen delynorion, datganwyr, a phobl o'r fath, yn gofyn eu cymhorth yn y gwaith; a rhoes hysbysiad mewn pedwar newyddiadur, wedi ei gyfeirio at y Cerddor-