ion, i'r un perwyl, Gwelir ffrwyth yr ymchwiliadaeth ddyfal hon yn y Bardd a'r Cerddor, lle y ceir enwau agos i ddeuddeg cant o hen alawon, ac wedi eu trefnu yn ol y wyddor. Costiodd y rhestr hirfaith hon lafur mawr iddo; a diau y bydd yn dra gwasanaethgar i haneswyr cerddorol yn ol llaw.
Dilynir y rhestr gan yr "Hen Ystraeon," y rhai sydd wedi eu hysgrifenu mewn arddull boblogaidd, ac yn ddyddorol iawn; a phe buasai Ceiriog wedi ymroi i gynull ac adrodd chwedlau a thraddodiadau Cymreig, gallasai wneud llyfr llawn mor ddifyr a dyddorol a'r Tales of the Irish Peasantry, gan Wm. Carlton. Prawf y dull deheuig yr adroddir yr ystraeon hyn, fod yr adroddwr bron cystal rhyddieithwr ag oedd o fardd. Y mae dwy farn yn mhlith ysgrifenwyr; un a ddywed y dylai'r iaith fyned ar ol y bobl, a'r llall y dylai'r bobl fyned ar ol yr iaith. Coleddai Ceiriog y syniad cyntaf; a chan mai'r bobl a biau'r iaith, dichon mai dyna'r syniad cywiraf. Pa fodd bynag, defnyddia luaws o estron—eiriau wedi eu sillebu yn Gymreig; ac ambell waith, pan fo gair Cymraeg llawn mor ddealladwy wrth law. Ar ol y cyfan, cyfrwng i egluro meddwl y naill ddyn i'r llall ydyw iaith, a synwyr yr ysgrifenydd neu y llefarydd sydd i benderfynu pa un a ddywed ef ei feddwl mewn un iaith neu rhwng dwy neu ragor. Gwell ganwaith yn yr oes brysur hon ydyw dweyd y meddwl yn syml ac yn eglur nag arfer geiriau heglog, haner marw, yn tywyllu'r ymadrodd, ac yn peri i ddyn adgofio am ei daith trwy dwnel hir, heb ddim yn tori ar ei nos ddu ond ambell wreichionen o'r peiriant.
Heblaw y pedwar llyfr a nodwyd,—Oriau'r Hwyr, Oriau'r Bore, Cant o Ganeuon, a'r Bardd a'r Cerddor—bu ei ben yn feddylgar a'i bin yn ddiwyd gyda lluaws o orchwylion eraill tra yr oedd yn Manchester. Cyfansoddodd eiriau i gantawd ar