Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Warchae Harlech," i'r cerddorion gystadlu arni yn Eisteddfod Abertawe, ac ar yr un telerau ag y darparodd gantawd "Tywysog Cymru" i Eisteddfod Caernarfon. Mr. Lawrance, o Ferthyr, a enillodd ar y gerddoriaeth. Ymddangosodd y gantawd hon, flynyddau ar ol hyny, yn Oriau'r Haf, gyda chyfieithiad Seisnig gan yr awdwr. Efallai, ar y cyfan, nad yw mor groyw loyw ei hawenyddiaeth a'i chwaer flaenorol; ond cynwysa hithau rai darnau effeithiol. Darlunir cyfyngder y dewrddyn Dafydd ab Einion, amddiffynydd pybyr y gaer, yn rymus annghyffredin; ac y mae ei gŵyn wrth weled ei wyr yn trengu o'i amgylch gan newyn a syched yn deilwng o Ceiriog ar ei uchelfanau. Gan fod y cyfieithiad o'r gân hono bron cystal a'r Gymraeg, ni a'i dyfynwn, fel y gwelo'r darllenydd pa fath Sais oedd y bardd Cymreig:—

How many days, how many nights
And months is this to last!
My men, with famished sunken cheeks,
Their eyes upon me cast;
Oh God! how many days and weeks,
And months is this to last!

Must I not see her ever more
Who for a soldier prays?
And shall I ask my men to make
Their tombs within this place!
Grim Famine follows in their wake-
Death looks them in the face!

Ye clouds that rise in God's blue skies,
With water from the main:
Will you pass o'er my gallant corps,
Who die of thirsting pain.
For me the raven brings no food,
Nor even a cloud has rain!

Yn Manchester hefyd y trigianai pan yn casglu ac yn dethol y llyfryn swllt, Gemau'r Adroddwr: o bob lliw, o bob llun, ac o bob lle. Mewn ystyr lenyddol, nid oedd y llyfr hwn yn gymaint llwyddiant a'i lyfrau eraill. Yn wir, yr oedd yn anhawdd i Ceiriog ddethol dim o waith eraill a fyddai mor