Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dderbyniol gan y wlad a'i waith ef ei hun. A braidd na thybiem fod rhywbeth yn sibrwd hyny yn ei glust pan wrth y gwaith o ddethol, canys o'r 53ain darn sydd yn y llyfr, y mae deg ohonynt yn dwyn enw y detholydd. Oddiwrth weddill y cynwysiad gellir gweled pwy oeddynt ei awdwyr anwylaf; neu yn hytrach, pa feirdd oeddynt yn rhagori, yn ol ei farn ef, fel awdwyr adroddiadau. Safant fel hyn:—

Roger Edwards, 6 darn; Dewi Wyn, 5; Glanygors, 4; Caledfryn, 3; Hiraethog, 3; Dafydd Ionawr, 2; Blackwell, 2; Derfel, 2; a cheir darn bob un gan 13 o awduron eraill; ac yn mysg y dosbarth olaf nid yw Dafydd ab Gwilym, Goronwy Owen, Lewys Morys, Bardd y Nant, Daniel Ddu o Geredigion, Eben Fardd, Nicander, ac amryw eraill allem enwi. Fe welir fod cylch y detholydd yn llawer rhy gyfyng; ac na ddeil y llyfr i'w gydmaru â detholion adroddiadol J. D. Jones a Rhydderch o Fon. Ond diau fod ganddo ef rhyw reswm neu ffansi tros yr hyn a wnaeth.

Yn fuan ar ol cychwyn Baner Cymru, yn 1857, penodwyd Ceiriog yn "Ohebydd Manchester " i'r newyddiadur hwnw; a llanwodd y swydd, o wythnos i wythnos, am flynyddau lawer. Os oedd rhyw fai ar ei lythyrau, rhy dda oeddynt i lenyddiaeth ddarfodedig fel papur newydd. Ac wedi rhoddi i fynu yr ohebiaeth leol, parhaodd i ysgrifenu i'r Faner ar wahanol bynciau hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Mewn llythyr a dderbyniais oddiwrtho yn Chwefror diweddaf, dywed, "This general dyspeptic debility has been hanging about me for two years; and there is no doubt, that with business and the Baner work (weekly) for 27 years, I have over-worked my nervous system." A thra yn son am y Faner, dylem grybwyll iddo ysgrifenu rhai erthyglau hefyd i'r Gwyddoniadur, a'i waith ef ydyw y llith gampus ar "Dafydd ab Gwilym," sydd yn y llyfr gwerthfawr hwnw.