Wedi treulio cymaint o'n gofod i son am fywyd y bardd trylen yn Manchester, ni ddylem annghofio dweyd mai yno y cyflawnodd un o weithredoedd callaf ei fywyd, sef ymuno mewn glân briodas gydag un o rianod teg ei wlad ei hun—Miss Roberts, merch Mr. Thomas Roberts, fferyllydd, o'r Lodge, treflan ar odreu Dyffryn Ceiriog, a cherllaw Castell y Waun. Cymerodd y briodas le Chwefror 22, 1861, wrth allor Eglwys St. Martin, Amwythig; ac yr oedd ei gyfaill, Owain Alaw, wedi myned yr holl ffordd o Gaerlleon i gymeryd rhan flaenllaw yn y seremoni. Trodd yr undeb allan yn un tra hapus. Seliwyd y fendith â phedwar o blant hawddgar, dau fab a dwy ferch. Clywsom ef yn tystio yn fynych na fendithiwyd dyn erioed gan ei wraig a'i blant â serch cryfach. Parhaodd y serch hwnw i dynhau tra parhaodd yr undeb; a phan dorwyd ef gan angau ar derfyn 26ain mlynedd, yr oedd y rhwygiad bron yn annyoddefol. Yr oedd eistedd wrth wely'r claf ddydd a nos am fisoedd, lliniaru ei boenau arteithiol, er yn ymwybodol fod bywyd o awr i awr yn graddol gilio, yn nefoedd mewn cydmariaeth i'r tawelwch gorlethol hwnw pan aeth y frwydr drosodd—pan safodd calon y priod serchus ac y tywyllodd llygaid y tad tirion.
Dichon mai dyma'r fan oreu i roddi rhyw amcan ddarluniad ohono fel dyn i'r darllenydd na chafodd erioed y pleser o edrych arno ond mewn dychymyg, na'r fraint o'i adnabod ond trwy ei waith. Ni welsom ni erioed ddarlun gwir foddhaol ohono; y photograph goreu o ddigon, i'n bryd ni, ydyw yr un o'r hwn y cymeryd yr arlun sydd ar ddechreu y llyfr hwn; ond tynwyd hwnw er's llawer blwyddyn yn ol, a'i ragoriaeth ar y rhai a gymerwyd yn ddiweddarach ydoedd ein hunig reswm tros ei ddewis. Yn y lleill a welsom, y mae rhyw osgo ac agwedd annaturiol arno, yswatia i'w blyf, y mae fel