cefnder neu gyfyrder iddo ei hun, ac yn debygach i'r Ellmyn llydanrwth nag i'r Cymro cyfluniaidd. Er cystal portreadydd ydyw'r haul, metha'n fynych gael gafael ar neillduolion gwynebpryd rhai dynion. Yn yr arlun hwn a ddewisasom, daliwyd y bardd mewn mynyd o naturioldeb diofal a myfyrgar; a chredwn y dywed pawb a'i hadwaenent bumtheg mlynedd yn ol, ei fod yr un fath ag ef yn union y pryd hyny. Canodd Ceiriog benillion tlysion ar Godiad yr Haul, a rhoes ddarluniad ardderchog o'r weledigaeth a gafodd arno o Ben y Wyddfa, ac ni fuasai fawr iddo yntau am y tro droi'r gymwynas yn ol.
Yr oedd ein cyfaill yn ddyn lluniaidd cymesurol, tua phum' troedfedd a deng modfedd o daldra, ac yn ei flynyddau olaf braidd yn dewychus ac yn gwargrymu ychydig. Anfynych y cyfarfyddech â gwr o ymddangosiad mwy rhadlon, boddlon, serchus a boneddigaidd. Gwisgai ei wynebpryd gwelw fynychaf fath o brudd-der tawel, tyner; ond pan y cai ei ddifyru neu ei foddhau, deuai gwên hyfryd tros y cyfan. Yr oedd "Gwên Ceiriog" yn ddiarhebol o ddymunol yn mysg ei holl gyfeillion, a'i chwerthiniad iach ac uchel yn diaspedain calon lân. O tan dalcen uchel, ac aeliau braidd yn drymion, pefriai dau lygad dwysfyfyriol, mwynion; ac yr oedd yn hawdd i'r sylwedydd weled trwyddynt yr athrylith oedd megys am y gwydr âg ef.
Pe dywedem yr oll a wyddom am dano fel dyn teg, a chyfiawn, a chymwynasgar, yn ei fasnach, ofnem y tybiai rhai dyeithr iddo ef a ninau ein bod yn gwenieithio, ac yn gwyngalchu ei goffadwriaeth. Ond y gwir yw ni welsom erioed ddyn tecach ac uniawnach yn mhob trafodaeth; ac yr oedd yr un mor ddihoced yn ei gyfeillgarwch. Yr adyn ffieiddiaf o bawb yn ei olwg oedd y rhagrithiwr ffals—y bradwr dauwynebog:—