Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr hwn sy'n d'od yn fwyaf rhwydd,
I ganu'ch clod tra yn eich gwydd,
Yw'r un parotaf sydd drachefn
I blanu'r ddagr yn eich cefn.

Yr oedd llon'd ei galon o gydymdeimlad â'r tlawd, yr adfydus a'r gorthymedig; a llon'd ei yspryd o barch at yr arch, y drugareddfa, a'r Shecinah. Meddai deimladau tyner a meddwl defosiynol. Yr oedd yn ddyngarwr dilys, yn enwedig yn Gymrogarwr; yn caru daioni, a'r moddion a ddefnyddiodd ef i ddangos ei gariad ato ydoedd ei ganmol ar gân. Y mae'r hwn all ein difyru heb ein llygru yn werth cant o'r gau athrawon cibddall hyny na fedrant wahaniaethu rhwng difyrwch a serthedd. O'r holl filoedd llinellau a adawodd efe yn gymunrodd anmhrisiadwy i'w genedl, nid oes yn eu mysg yr un syniad atheistaidd, annuwiol, brwnt, na llygredig; tra y mae ei holl waith yn gyforiog o feddyliau tlysion, swynol, addysgiadol, ie ac adeiladol yn ystyr onestaf y gair. Ac eto, fel y dywed Trebor Mai am un arall:

"O! fel bu enllib filain—yn dadwrdd
Ei wendidau bychain;
Enllibiaeth, all hi ubain
Newydd i'r Ior faddeu 'rhai'n!"

Ac felly, fel llawer o'i flaen, aeth yntau i'r Cyfrif Mawr yn sain canmoliaeth y miloedd a chrawcian yr haner dwsin; gan deimlo'n ddigon sicr na thycia y naill mwy na'r llall i wyro y Cyfiawnder a geir yno.

Yn 1865, wedi trigiant o agos i ugain mlynedd yn "mhrifddinas y gwlaw a'r cotwm," rhoes ei fryd ar ddychwelyd i fyw i Gymru; gyrodd gais am y swydd o orsaf-feistr at gwmni y Cambrian Railway; a phenodwyd ef i gymeryd gofal gorsaf Llanidloes. Yr oedd hon yn swydd bwysig a thrafferthus, gan fod cwmni y Cambrian a'r Mid-Wales yn cyfarfod yn ngorsaf Llanidloes; ac felly yr oedd ganddo ddau feistr i'w gwasanaethu. Ac os mwy