o lonyddwch a geisiai, trwy y symudiad, i ymhwedd â'r awen, y mae lle i ofni iddo "neidio o'r badell ffrio i'r tân;" ond dywed ei gyfaill Idris Fychan, yn ei erthygl ar y bardd a ymddangosodd yn y Darlunydd, mai "ffit o hiraeth am Gymru, ac am awyr iach y mynyddoedd i fagu ei blant," a barodd iddo adael Manchester. Pa fodd bynag, ni bu nemawr hwyl ar ei delyn awenyddol am fisoedd wedi'r symudiad. Gadawodd i'w alluoedd barddonol orwedd am yspaid yn fraenar ha'; tynodd bedolau ei Begasus, a throes hi i'r borfa; dychwelodd yr awen fel boneddiges i Gymru i fyw am dymhor ar ei henillion yn Lloegr. Ofnai ei gyfeillion iddo droi pen ar ei fwdwl, gan dybied oddiwrth y cnwd toreithiog a gawsai eisoes ar faes ei athrylith fod y cynhauaf weithian drosodd. Dywedai ambell un, heb fod yn gyfaill neillduol iddo, fod ei lyfrau yn myned yn wanach, wanach, o Oriau'r Hwyr hyd Gydymaith y Cerddor; a'i fod "wedi rhacio'r tân i gyd o'r grât." Ond pe gwybuasai y cyfryw, trwy brofiad, am drybini a helbulon meistr gorsaf lle cyferfydd buddianau dau gwmni; ac am yr ymenydd yn llosgi beunydd beunos gan bryder mân ofalon dirif, ac awyddfryd dyn cydwybodol i gyflawni ei ddyledswyddau yn drwyadl, yr ydym yn sicr y buasai eu beirniadaeth yn dynerach.
Yn ystod y cyfnod difarddoniaeth a ddaeth trosto ar ol ymsefydlu yn ei gartref newydd, cymerodd cyfnewidiad amlwg le yn ei chwaeth at y mesurau caethion. Cyn hyn, defnyddiai'r gynghanedd yn unig i wneud ambell i englyn, a "cloi synwyr mewn clysineb mewn llinellau yma ac acw yn ei ganeuon. Ond pan ddadebrodd ei awen o'i chyntun, un o'r profion cyntaf a roddes o hyny ydoedd canu cywydd i'w chartref newydd—Llanidloes. Estyna y cywydd hwnw i dros chwech ugain o linellau; ac y mae ynddo luaws o ddrychfeddyliau