Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Wesley, ei fywyd a'i llafur.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

WRTH derfynu y gwaith hwn a'i gyflwyno nawdd fy nghyd wladwyr, goddefer i mi adgofio y darllenydd mai hwn yw y bywgraffiad cyntaf o Sylfaenydd Wesleyaeth a ymddangosodd yn ein hiaith. Cyhoeddwyd crynodeb o "Hanes Bywyd y Parchedig John Wesley," o gasgliad y Parch. John Hughes, Aberhonddu, yn y gyfrol gyntaf o'r Eurgrawn Wesleyaidd, yn 1809; eithr nid yw yr erthyglau hyny ond byrion ac annghyflawn, a chan mwyaf yn ddim ond rhydd-gyfieithiad o Fywyd Wesley gan Coke a Moore. Yn mhen 34 mlynedd ar ol hyny, sef yn y flwyddyn 1843, gwnaed ymgais i osod "Hanes Bywyd y Parch. John Wesley" o waith yr enwog Richard Watson, yn llaw y Cymro uniaith. Y cyfieithydd oedd un "Robert Jones (Bardd Mawddach)," yr argraffydd a'r cyhoeddwr hefyd oedd un " J. W. Hughes, Wyddgrug, mab y Parch. Evan Hughes." Y bwriad ydoedd ei ddwyn allan yn rhanau chwecheiniog, mewn plyg bychan. Ymddangosodd dau neu dri o ranau, ac yna o ddiffyg cefnogaeth, rhoddwyd yr anturiaeth i fyny, a gadawyd y gwaith yn anorphenol.

Heblaw hyny, cafwyd dyfyniadau cyfieithiedig o Ddyddlyfrau Mr. Wesley, yn cynnwys hanes ei deithiau a'i lafur yn Nghymru, a nifer fechan o erthyglau byrion ar ryw amgylchiadau neillduol yn ei hanes, neu ar ryw linellau arbenig yn ei gymeriad, yn yr Eurgrawn o bryd i bryd. Cynnwysir erthygl faith arno yn y Gwyddoniadur Gymraeg, a cheir braslun o'i hanes mewn un neu ddau o'n cyhoeddiadau Cymreig; eithr ni chyhoeddwyd llyfr yn yr iaith ar fywyd a llafur y gŵr da, galluog ac ymroddgar Wesley, hyd ymddangosiad y gyfrol hon. A chan nad beth yw diffygion y gwaith hwn, y mae yn amlwg nad oes