Lelierve, yn cyfuno rhagoriaethau y ddau heb yr un o'u diffygion. Pell wyf o feddwl fod y gyfrol hon yn llenwi yr adwy grybwylledig, nac yn deilwng o gael ei hystyried yn waith safonol; ar yr un pryd, nid wyf yn petruso datgan ei bod o ran cynllun a maintioli, lliosogrwydd y ffeithiau a gynwysir ynddi, a'r lle a roddir iddynt yn yr hanes, yn hwylusach na'r un gwaith Saesneg sydd wedi ei gyhoeddi hyd yma, ac yn gymaint felly, fel nad yw meddu y goreu o honynt yn gwneuthur hon yn waith afreidiol.
Oddiar yr ystyriaeth fod y sylw crybwylledig o eiddo Dr. Rigg yn gywir, ni fernais yn ddoeth i ddylyn, nac efelychu trefn ac arddull, llawer llai ymfoddloni ar gyfieithu gwaith yr un awdwr Saesnig, wrth gyfansoddi y gyfrol hon; a thra yr wyf wedi ymgynghori a phob llyfr a thraethawd a pherson ag y gwyddwn am danynt oedd yn gynnorthwyol i adnabod Mr. Wesley a'i amserau, ar yr un pryd yr wyf wedi ymhyfhau i ffurfio barn annibynol ar y naill a'r llall, ac wedi cymeryd fy ffordd fy hun i drefnu a chyfleu yr hyn a ysgrifenais, fel y mae y llyfr yn mor drwyadl Gymreig ac mor wreiddiol ag y mae yn bosibl bod felly wrth ysgrifenu hanes. Yr wyf yn gwneyd y sylw hwn er mwyn rhyw ddosbarth o bobl sydd i'w cael ar y ddaear nad oes ganddynt ddirnadaeth uwch am lyfr Cymraeg na'i fod yn gyfieithiad waith rhyw awdwr Saesnig. Hyderaf y gwel yr hen a'r oedranus fod gofal penodol wedi ei gymeryd am danynt yn y llythyren fras ac eglur yn yr hon y mae y gwaith wedi cael ei argraffu, a gobeithiaf y bydd y Darluniau sydd yn ei addurno yn cyffroi ac yn boddloni dyddordeb y plant a'r bobl ieuainc, er mwyn y rhai yn benaf eu dodwyd hwynt i mewn.
Y mae genyf i gydnabod ein Swyddfa Saesnig yn ddiolchus am ganiatad i gyhoeddi y Darluniau, ac ni fynwn anghofio fy rhwymau i'r cyfeillion hyny a gymerasant ddyddordeb neillduol yn fy ymgymeriad, ac a fuant barod i estyn imi y cymhorth a'r cydymdeimlad anogaethol a fu mor werthfawr genyf trwy fisoedd fy llafur. A goddefer imi ychwanegu trwy ddatgan y gwerth