Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wrth glywed y siarad gellid tybio fod hanner y cwmni wedi bod yn yr ymladd naill yn yr Ysbaen neu yn Waterlw ei hun. Ond ni ddywedai Lewsyn. air. Yr oedd efe wedi cael digon o'r clêdd a'r bidog am un oes dda.

"Glywch chi nhw?" ebe'r Cymro o Aberhonddu wrth ei gydwladwr tawedog, fe allsa dyn feddwl mai generals sy yma i gyd. A fe ddalam côt a'm het, pe cawsem ni'r gwir mâes, nad oes 'i hanner nhw wedi 'rogli powdwr erioed. Mae bechgyn bach heddi' ym Merthyr, heb fynd gam pellach, sy' wedi cael mwy o brofiad ymladd na'r criw i gyd gyda'i gilydd."

Wrth glywed y cyfeiriad at Ferthyr bu bron i Lewsyn fradychu ei hun, canys dwedwyd y peth mor ddisymwth fel na chafodd y presenoldeb meddwl i reoli ei wynepryd. Ond yr oedd ei gydnabod newydd yn ddigon difeddwl a diniwed, gair ar antur oedd, ac euthpwyd i siarad am bethau eraill yn ddigon naturiol ac hamddenol.

Bellach cludai pob dydd hwynt yn hwylus tuag adref, a disgwylient fod yn Llundain ymhen pythefnos. Pasiwyd y Canaries, y Madeiras a Thangier, a disgwyl- ient weled Craig Gibraltar trannoeth pan y digwyddodd rhywbeth fu bron a'u rhwystro i weled Gibraltar, Llunden, na dim arall.

Gyda'r wawr gwelwyd llong estronol yn torri yn groes i'w cwrs hwy fel ag i'w cyfarfod ymhellach ymlaen.

Gwyddai pawb eu bod yn awr yng nghylch mwyaf peryglus y môr-ladron, a phan y gwelwyd cwrs amheus y llong ddieithr daeth y gair brawychus "Pirate!" i enau pawb.

Syllodd y capten arni drwy ei ysbienddrych hir am funud neu ddwy, ac yna dywedodd gydag awdurdod yn ei lais, "Call all men-crew and passengers alike-to the foredeck!" Dywedodd ei neges mewn byr