Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXIII. Y LLEIDR PENFFORDD.

YN y modd hwn y treuliwyd y dydd, a'r Coach yn cadw amser da dan lywyddiaeth Shemsyn. Am yr ychydig amser a gymerid i newid y ceffylau ar ben pob stage, neidiai Lewsyn i lawr i "estyn ei goesa" ys dwedai efe; ac yn Devizes ni anghofiodd ddiolch unwaith eto i'r boneddwr a newidiodd ei sedd âg ef.

Cyrhaeddwyd Caerloyw yn brydlon, ond cyn tynnu i fyny yno yr oedd Shams wedi addaw ceisio "newid tro" a'r gyrrwr oddiyno i Gaerdydd yn lle troi yn ei ol i Lundain, fel ag y gallai gael cymaint o gwmni ei hen gyfaill ag oedd bosibl.

"Mae'r driver hynny. a fi yn deall 'n gilydd yn lled dda," ebe fe, "ac os oes modd yn y byd fe fydda i gyda thi prynhawn y fory eto. 'Dyw yr afternoon. mail ddim yn starto cyn un o'r gloch, ti'n gweld. Fe ddof i heibio i ti heno yn y Green Dragon i ti gael gwybod yn siwr os galla i ddod neu beidio."

Hynny a fu. Llwyddodd Shams yn ei gais gan y gyrrwr a'i feistr, ac am un yn y prynhawn drannoeth wele y ddau gyfaill ochr yn ochr unwaith eto a'u hwynebau tua Chymru.

Aethant yn hwylus heibio'r Forest of Dean, a byrhawyd cryn dipyn ar y daith gan adroddiad Shams o hanes ei dreial ei hun ac ysmaldod yr hwn a gyhuddid yr un pryd ag ef.

"Weles i ddim shwd amser erioed arno i, Lewsyn," ebe fe, er y mod i'n gwybod mai tipyn bach oedd rhyngto i a nghroci, ro'wn i bron marw isha werthin.