Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'weyd taw mai i i gyd oedd gadal i Saltmead 'scapo; mod i yn rhy 'sgeulus o lawer, er nad oedd dim trugaredd o gwbwl gyda thi arno. 'Dyw hynny ddim ond y gwir, waith welais i mo ti erioed yn gasach at neb. A chymer hwn hefyd!" gan estyn iddo amlen llythyr hir, a rho fe i Offis y Glo'ster Journal, peth cynta' wedi 'ti gyrraedd, a rhwng popeth ti fyddi di'n right. Nawr, dere lawr i gael brecwast da cyn starto!"

Erbyn deg yr oedd Shams wedi dyfod ynol i'w le," a gwahanodd y ddau gyfaill yn eu hysbryd arferol.

"Paid bod mwy nag wythnos man pella! Fe fydda' i yma yn dy aros, cofia!"

Cychwynodd y cerbyd, cododd y cyfeillion ddwylaw i'w gilydd, ac yr oedd Lewsyn unwaith eto wrth ei hun.

Cerddodd o gylch Caerdydd am ddeuddydd, ond nid oedd iddo ddim pleser yn y gwaith. Gwgai Neuadd y Dref arno o bob cyfeiriad, ac yr oedd meini oer yr adeilad fel pe am ei atgofio o'i ddihangfa gyfyng bedair blynedd yn ol. Clywodd grwt yn yr heol yn llysenwi un arall yn Ddic Penderyn! a rhywfodd aeth hynny i'w galon yn waeth na dim.

Erbyn y trydydd dydd yr oedd ei ysbryd yn isel iawn, ond yn ffodus, daeth iddo y diwrnod hwnnw lythyr oddiwrth y Sgweier a'i calonogodd eilwaith. Ac yn wir llythyr calonnog ydoedd, canys dywedai,—

"Dear Lewis,

I am looking forward to seeing you with the greatest anticipation, but I shall, unfortunately, be unable to see you for a week or nine days, as I am engaged just now on important county business at Brecon. But as I want to be the first man in Penderyn to congratulate you, please remain in Cardiff a little longer, will you? And as I fear that your ready cash may not hold out