Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y fi pia fe, dod e' lawr! Ar ol i fi ddilyn e' o garreg i garreg, wyt ti'n meddwl, o achos iddo ddod i dy law di, ta ti pia fe?"

Lewsyn oedd yno, a'i ddwy lawes wedi eu torchi hyd fôn y fraich, ac mewn tymer ddrwg am i'r brithyll oedd efe wedi "ei ddilyn o garreg i garreg," ys dywedodd efe, ddigwydd cael ei ddal ar unwaith gan Shams Harris o'r Pompran,—bachgen araf wrth ei wers, ond buan ymhob camp,—a oedd gyda Lewsyn yn goglais brithyllod yn y nant ar y pryd. Enghraifft arall o berchen y "talentau lawer" yn gomedd yr "un dalent " i'w frawd llai.

Syllodd Mari yn feddylgar ar Beti, gan ddweyd mor eglur ag y gallai edrychiad wneud.—"Oni ddwedais i?" Ond ni fynnai Beti ddal ei golwg arni, ond gyda gwrid dros ei holl wyneb, dywedodd wrth Lewsyn,— "Rhowch y pysgodyn iddo, Lewis, fe ddof i a gwell hwnna o lawer ichi 'fory!"

Yn groes i ddisgwyliadau y merched, estynnodd Lewsyn y brithyll yn ol i Shams, a hwnnw a'i hailgymerodd o'i law fel pe bai lwynog yn cael ysglyfaeth o bawen y llew. Lewsyn, gan wenu ar y merched, a dynnodd ei lewys i lawr i'w arddyrnau, ac wedi eu sicrhau wrth y botymau, dringodd i'r cae ar yr ochr bellaf i'r nant.

Trodd y merched hwythau, yn eu holau i'r ysgol, ond rhywfodd, nid oedd ond siarad prin ar y llain rhwng y nant a'r ysgubor y diwrnod hwnnw.

Wedi cyrraedd adref i Hendrebolon yn hwyr y prynhawn, bu Beti yn brysur wrthi yn troi nant y pistyll i lifo i wely arall er mwyn dal brithyllod yn yr hen wely. Llwyddodd i gael tri pysgodyn braf, oedd wedi eu gadael yn sych oherwydd newid cwrs y ffrwd. Y rhai hyn wnaent rôdd yr aberth i Lewsyn fore trannoeth,