Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac er mwyn bod yn unol â'i haddewid, gosododd hwy yn daclus, gyda glaswellt drostynt, yng ngwaelod ei chôd bwyd, yn barod i'w dwyn at ei harwr yn ol llaw. Ni ddywedodd air wrth neb am y ddalfa, ac yr oedd y pleser yn fwy o feddwl mai llygaid Lewsyn a'u gwelent, gyntaf. Nid anghof ganddo yntau yr addewid ychwaith, oblegid hanner awr cyn ysgol y bore, aeth i gyfarfod Beti i Bantgarw, ac yno, wrth glwyd y waun, y cafodd yr eneth y gwynfyd o weled llygaid Lewsyn yn blysio am feddu y rhodd.

Ymhen tipyn, gwelodd Mari y ddau yn dyfod gyda'i gilydd drwy y coetcae at eu gwersi, a theimlai yn ei chalon y chwerwder o gael cydymgeisydd am y serch a brisiai mor fawr. Dangoswyd y tri brithyll iddi, mae'n wir, ond nid oedd ynddi yr un edmygedd ohonynt. Credai y buasai y difaterwch hwn yn gosod pethau yn eu lle iawn, ond, i'w mawr siom, ymddangosai ei hoerfelgarwch fel peth dibwys yng ngolwg y ddau arall.

O hyn allan anamlach y gwelid Mari yn helpu Beti gyda'i gwersi, ond llenwid y bwlch,—a mwy,—gan y cymorth a gaffai gan Lewsyn.

Eto' daliwyd y cyfeillgarwch drwy y cwbl, a buan y daeth amgylchiadau i gylch eu bywyd ar a'i hasiodd cyn dynned ag erioed.

Aeth tymor yr ŵyn heibio, a dilynwyd ef gan dymor nythod; ac yma, er holl fedr Lewsyn a Mari mewn llyfrau, rhaid oedd rhoi y flaenoriaeth i Beti, canys am bob nyth a ddangosent hwy iddi hi, dangosai hi ddwy yn ol iddynt hwythau. Ymwelent eill tri â dinasoedd yr adar yn ddyddiol, a mawr oedd y siarad a'r pryderu am yr adar bychain oedd yn ymyl deoriad.

Un diwrnod, daeth Beti bum munud yn hwyr i'r ysgol, ac er na chafodd yr un cerydd, ymddangosai yn dra chynhyrfus drwy y gwersi cyntaf. Ni welodd hi