Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erioed fore cyhyd a'r bore hwn, oblegid yr oedd ganddi gyfrinach o'r radd flaenaf i'w rhannu â Lewsyn a Mari, a chyn bod y gwaith wedi ei roi heibio yn hollol, dyna hi yn torri allan wrthynt bod ganddi hi "nyth esgyrn!" Chwarddodd y bachgen yn ddiatal, a gwenai Mari yn anghrediniol, ond mynnai Beti ei bod yn iawn, a chan na allai y fath syndod aros hyd ddydd Sadwrn heb ei chwilio yn llwyr, penderfynwyd gweled y nyth y noson honno.

"Y mae uwchlaw pyllau Bryncul," ebe hi, "a bron bod yn y dŵr, ac o waith y 'deryn perta weles i 'rioed."

Ni wyddai hi ba enw i'w roddi ar berchen y nyth, ond disgrifiodd ef gyda hyawdledd neilltuol, ac ar ol hynny nid oedd neb yn ameu ei thystiolaeth.

Trefnodd Mari a Lewsyn i hebrwng Beti i Waun Hepsta y prynhawn hwnnw ar ol ysgol, gan alw heibio'r nyth hynod ar y ffordd, ac yna ddychwelyd i Benderyn, gan adael iddi hithau groesi'r Waun tua'i chartref. Tynnodd Lewsyn bolyn o'r berth, ac ymaith a hwynt yn llawen, y tri yn llawn eiddgarwch i weled y fath ryfeddod mewn natur.

Wrth ddynesu at y pyllau, disgynasant yn araf at y dŵr, gyda Beti ymlaenaf. Ymlwybrwyd gam yng ngham, heb yngan na sisial gair na dim, pan, yn sydyn, Whirr! cododd aderyn a lliwiau'r enfys ar ei gefn oddiar y nyth, a gwelent ddau wy mewn cylch o fân esgyrn yn y man yr eisteddai perchen y lliwiau disglair.

Glâs-y-dorlan (Kingfisher) oedd yr aderyn, a'i nyth yn wneuthuredig o esgyrn y brithyllod oedd wedi eu llarpio y mis diweddaf. Beti oedd yr arwres yn awr, a gwnaed cynghrair, wrth gwrs, nad oedd neb arall pwy bynnag, i gyfrannu o'r gyfrinach felys hon.

Wedi ymgomio am beth amser, ymrannodd y cwmni,— Beti yn myned ymlaen i Hendrebolon, a'r ddau arall yn dychwelyd yn eu holau i bentref Penderyn.