Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III.—Y GIST

SHEMSYN! faint o arian sy' gen't ti?" oedd y gofyniad sydyn roddodd Lewsyn Bodiced i ogleisiwr llwyddiannus y brithyllod. un prynhawn Gwener pan oedd ysgolheigion Gwern Pawl wedi eu gollwng am y dydd.

Edrychodd Shams am foment ar ei gyferchydd heb ateb gair canys ni wyddai beth oedd i ddilyn. Ond o'r diwedd cafodd ei dafod, ac ebe fe,—" Pwy isha iti wneud yn fach ohono i, Lewsyn, a thithau yn gwybod nag oes dim gyta fi? Mr. Wynter y 'ffeiriad dâlws am'n ysgol i y cwarter hyn, a thyna beth wyt ti wedi glywed, tebig!"

"Na, Shams, nid fel 'ny o'n i 'n meddwl, wir. Isha d' help di sy arno i, ac y mae arian am dano hefyd."

"Wel, beth yw e?"

"Dyma fe—ti wyddost am hen ganddo'r Darran Ddu, sy' wedi lladd cymint o ŵyn leni. Wel, o'r diwedd mae o 'n sâff yn y gist gen 'i, ac 'rwy'n 'mofyn d' help di i gael e' mâs. Tipyn o job fydd hynny, ti'n gweld, rhaid cael dau idd'i wneud e', a'r ddau hynny'n fechgyn lled heinif hefyd. Ond unwaith bydd e 'n y ffetan gallwn fynd ag e' i'w ddangos i'r ffermwyr, ac mor falch fydda nhw bod y llencyn wedi'i ddal, nhw ro'n swllt yr un inni gei di weld. Ddoi di? Gwêd 'nawr, ne' bydd rhaid i fi ofyn i Ianto'r Saer. Ond gwell genny' dy gael di. 'Dyw Ianto ddim digon smart. Yn wir, Shemsyn, ti ddalast y brithyll 'ny 'n bert!"