Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyna oedd yr ymgom a sicrhaodd dynged canddo'r Darran Ddu am byth. Fel y dywedodd Lewsyn, yr oedd ei ddifrod ar ŵyn yr ardal wedi creu llawer o syched am ei waed ymhlith pob perchen diadell y tymor hwnnw, a mawr fu yr ymgais i'w ddal "sodlau i fyny" mewn canlyniad.

Syrthiodd y lwc, fodd bynnag, i Lewsyn, llanc o'r ysgol i lwyddo lle y methodd pawb arall, ac wedi denu o hono yr ysglyfiwr allan o agen y graig i'r trap cerrig. h.y., y gist, y cam pwysig nesaf oedd ei gael allan o hwnnw drachefn i'r sach oedd yn barod i'w dderbyn. Yr oedd cwmwl wedi codi rhwng Lewsyn a Shams oddiar helynt y nant, ond diflannodd yn y man pan soniwyd am y gist. Dangosodd y pen-ysgolor ddoethineb yn ei ddewisiad o lifftenant, canys onid oedd hwnnw eisoes wedi profi ei fedr i fod yn heinif? a dangosodd ddoethineb mwy yn y modd haelfrydig y cyfeiriodd at y medr hwnnw. O'r foment honno allan yr oedd y ddau yn gyfeillion i'r pen, gyda Shams yn gludydd arfau i'w arglwydd hyd dranc.

Ond fel y digwyddodd y tro hwn, yr unig arf ddygid oedd sach gref, ac i hon rhaid oedd cael gelyn y diadelloedd yn fyw. Digon hawdd fyddai ei ladd yn y gist ond nid oedd hynny namyn na saethu aderyn ar ei nyth, ac felly yn hollol groes i draddodiadau goreu helwriaeth ymhobman.

Ond O! 'r fath drybestod fu ar y ddau lanc cyn cael yr hen gono i'r ddalfa! Agorwyd un pen i'r gist yn ofalus, ac o gylch yr agoriad hwnnw cylymwyd genau y sach yn ddiogel. Yna ceisiwyd peri i'r hen law symud i gyfeiriad y sach. Ond ofer am hir amser y bu hynny, er gwaethaf pob picellu a wnaed arno trwy agennau'r cerrig.