Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV.—Y FUGEILES A'R HELIWR.

ER nad oedd Beti Hendrebolon ond prin pedair-ar-ddeg oed pan gollodd ei rhieni. cymerodd at waith y ffermdy fel pe wedi cael hir brofiad ohono. Gofalai am reidiau ei brodyr fel y gwelsai ei mam yn gwneuthur yn y dyddiau gynt, ac yr oedd y dodrefn a'r llestri llaeth yn dangos y glendid mwyaf.

Arhosodd ei thri brawd yn weddw, a chydag amser edrychid gan yr holl gymdogion ar Beti fel meistres y tyddyn. Gweithiai yn galed ar bob tymor o'r flwyddyn, a mawr oedd ei gofal am holl greaduriaid y fferm.

Prif gyfoeth Hendrebolon oedd y defaid a borai "arhosfa" helaeth ar lethr y Fân. Bugeilid y rhai hyn yn gyson gan un o'r brodyr, ond o byddai goruchwylion eraill y fferm yn gofyn am lafur y tri brawd, mynych yr elai Beti ei hun i edrych y mamogiaid. Gyda'i deugi yn ei. dilyn clywid ei chwibaniad yn torri o'r ucheldiroedd, a llawer o deithwyr ar heol Senni a syllent gydag edmygedd ar y fugeiles dlos yn llamu nentydd a ffosydd yr "arhosfa."

Pan ar ymweliad ag Ystradfellte un tro, gwelodd fy hen famgu hi fel "Menna yn dod o'r mynydd," gyda'r awelon yn ei gwallt a cheinder y rhos yn ei grudd. Ac o'r cyfarfyddiad damweiniol hwnnw nid oedd "byw na bod" heb i'r hen gyfeilles ysgol fyned i lawr gyda hi y foment honno i Hendrebolon i gael ymgom uwchben brechdan a llaeth. Yn yr ysgwrs gylch y bwrdd daeth Gwern Pawl a'i gysylltiadau yn naturiol i'r siarad, ac o ganlyniad