Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enwyd Shams a'r cyfeillion eraill cyn bo hir. Pan ofynnwyd i Beti am y pryd y gwelodd hi Lewsyn ddiweddaf, hi a drodd y siarad fel pe o ddamwain i gyfeiriad arall. Rhyfeddodd fy hen famgu ychydig at hyn ar y pryd, ond aeth y peth yn fuan o'i meddwl, a chan godi i ymadael brysiodd i'w siwrnai gyda barn uwch nag erioed am harddwch a deheurwydd Beti.

Hyfryd fuasai gan fy hen famgu pe gallai feddwl yn dda am Lewsyn hefyd yn y cyfnod hwn, ond yr oedd ei anian wyllt ef yn ei arwain yn brysur i'r llwybrau lle mae colli cymeriad yn beth hawdd. Efe oedd heliwr Bodwigiad yn awr, a siaradai yr holl ardal am ei ystranciau. Sonnid yn neilltuol am y ffair olaf ym Mhontneddfychan pan arweiniodd efe nifer o fechgynnos y chwarel i ffrwgwd waedlyd â glowyr Glynnêdd a derfynodd mewn cyfraith a dirwyon.

Clywodd Beti yr holl helynt heb holi dim yn ei gylch, oblegid adroddid ef gan ei brodyr (a gashaent Lewsyn â chasineb mawr), yn ei gwydd heb ystyried fod pob gair a ddywedid fel brath i'w chalon. Ymhen hyn oll aeth y brodyr yn fuan wedyn i gyfraith a chefnder Lewsyn parthed "hawliau mynydd" Fforest Fawr Brycheiniog, a phechodau y tylwyth yn gyffredinol gyda phechodau unigol y ddau gefnder oedd i'w clywed beunydd gylch y bwrdd yn Hendrebolon. Ni chymerai Beti ran yn y siarad o gwbl, ond yr oedd rhywbeth yn ei mynwes yn cymell amddiffyniad o Lewsyn i'w meddwl yn wyneb y cyhuddiadau i gyd.

Tua'r amser hwn gwahoddwyd Beti gan ei chyfeilles Mari i dreulio prynhawn Sul gyda hi ym Mhenderyn, a rhan o'r cynllun oedd i Mari ddyfod i'w chyfarfod hyd Bont Hepsta erbyn dau o'r gloch. Hynny a wnaed, ac wedi cwrdd ohonynt trôdd y ddwy gyfeilles oddiyno i gyrchu Twyn yr Eglwys.