Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond pan ar yr heol isaf oedd ryw drichanllath islaw heol fawr Aberhonddu, heb na gwrych na chlawdd rhyngddynt, gwelsant ddyn ieuanc yn marchogaeth ar yr heol uchaf. Adnabu y cyfeillesau ef ar unwaith, ac hyd yn oed pe heb adnabod y marchogwr, yr oedd ceffyl gwyn Bodwigiad yn gyfarwydd gan bawb yn y plwyf. Ond nid oedd yr un amheuaeth yn meddwl y ddwy eneth am bersonoliaeth marchogwr y ceffyl gwyn.

"Y mae yn mynd i'r Becwns," ebe Mari, gan gyfeirio at arferiad yn yr ardal gan bob perchen merlyn i wneud y daith i Fannau Brycheiniog y Sul cyntaf yn Awst.

Ar hyn cododd Lewsyn ei law atynt mewn cyfarchiad moesgar, a theimlai y ddwy nad oedd gelyniaeth ganddo at Beti, beth bynnag am ei brodyr.

"Welsoch chi'r haul ar 'i wallt e'?" medde Beti, "on'd o'dd e' fel aur?"

Nid oedd Mari wedi sylwi yn neilltuol ar hynny, a phan drodd, mewn eiliad neu ddwy, i ddweyd rhywbeth arall wrth ei chyfeilles, gwelodd fod honno yn gwrido 'n ddwfn unwaith eto, fel ag y gwnaeth gynt wrth y nant.

Aeth Lewsyn rhag ei flaen i Gwmtâf gan feddwl mwy am y sylw a gaffai efe a'i greadur hardd yn arddangosfa y merlynnod wrth droed y Becwns nag am y merched. Yr oedd y sôn am ei ddyrchafiad i fod yn brif heliwr yr ystâd wedi tramwy y blaenau oll, a theimlai efe yn rhinwedd hynny ei fod yn rhywun mewn gwirionedd bellach.

Rhoddid y flaenoriaeth iddo, nid yn unig gan Shams, ond gan holl gylch ei gyfoedion, ac yn neilltuol felly mewn unrhyw gwestiwn a berthynai i ragoriaeth creadur. Yr oedd y bechgyn hyn wedi arfer plygu i'w farn pan yn yr ysgol, ac anodd ganddynt oedd ei groesi yn awr. Credent fod yr hwn oedd yn anffaeledig