Yna daeth i mewn gyda'r delyn leisiau amryw o bob cwr o'r ystafell, pob un yn ei dro a'i ergyd lleol neu amserol ac wedi dihysbyddu y ddawn barod. dechreuwyd ar rai o'r hen dribannau nad oedd yr wyl byth yn gyflawn hebddynt.
Tri pheth sydd ym Mhenderyn
Mae’r Ysbryd Drwg yn ddilyn,
Gwrach y Waun, a'r Hendy Llwyd,
Ac aethus glwyd Yr Eithin.
Mi wela' Fanwen Byrddin,
Mi wela' Foul Pendoryn,
Mi wela' Fforch-y-garan Wen,
Mi wela' Benrhiwmonyn.
Beth gei ar Fanwen Byrddin?
Beth gei ar Foel Penderyn?
Beth gei yn Fforch-y-garan Wen?
Beth gei ar Benrhiwmenyn?
Caf lo ar Fanwen Byrddin,
Caf galch ar Foel Penderyn,
Caf garu merch y Garan Wen
Wrth rodio Penrhiwmenyn.
O'r gyfres olaf canodd yr Hen Scwlin y "pennill gofyn,"
a rhoddwyd yr ateb gan Hywel ei hun, a chan iddo
arafu ar y llinell olaf hysbysiad i bawb oedd hynny
fod y mesur hwnnw i derfynu gyda'r pennill mewn llaw.
Dilynwyd y Triban gan amryw fesurau eraill oedd yn gofyn medr mwy ac a ddenai y cantorion goreu i'r maes. Yn eu plith bwriodd Shams i mewn gyda chryn effaith yn "Serch Hudol," ac nid cynt yr adnabyddodd yr hen delynor y llais soniarus nag y gwelid gwen foddhaus ar ei wyneb, oblegid ar wahan i'w allu yn y grefft yr oedd Shams yn ffefryn neilltuol