Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am ei arabedd a'i natur dda. Dyma'r modd y canodd,-

i ennill cymeradwyaeth y tro hwnnw.

Yna, wedi distewi o'r gân yn llwyr, cododd yr Hen Sgweier a'r Rheithor i fyned allan, a chyrchasant at y drws drwy ganol y dorf oedd yn sefyll ar ei thraed iddynt fyned trwodd.

Wedi i'r lleill ddilyn y delyn allan gwelid ffagl fawr wedi ei goleuo wrth dalcen yr eglwys ac yng ngoleu honno y dawnsiwyd y Ddawns Fawr tan hanner nos.

Ond nid oedd Gwyl Gynog eto ar ben. Gyda thoriad gwawr wele chwythiad mewn corn hela yn galw ar bawb a fynnai i ddilyn cenel Bodwigiad i'r maes, ac ar hyn dacw arwyr y ddawns, Shams Harris, Ianto'r Saer a'r lleill yn gadael yr ysguboriau, a'r ystablau, neu ble bynnag y llwyddasant fwrw awr neu ddwy O gwsg, i ddilyn y cŵn drwy gydol y dydd. Ac yn ddiweddglo i'r oll, onid oedd cinio râd yn eu haros yn y Dafarn Isaf gyda photes " y whipod," na phrofid gan neb pwy bynnag, hyd nes i un o urdd Cynog ei hun, sef y rheithor, ei phrofi yn gyntaf, a dwedyd mai da ydoedd.

"Wel, Shams, beth am yr wyl eleni, gwell ai gwaeth na'r llynedd? Gwelais di yn dawnsio wrth dy fodd, ta' beth!" Dyna oedd cyfarchiad Ianto i'w gyfoed Shams y bore dilynol.