Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Yr oedd y ddawns yn ddigon da, Ianto, a'r gân, a'r hela, a'r ' whipod ' hefyd o ran hynny. Ond wyddost ti beth! 'do'dd y dawnsiwr a'r heliwr gore fagws Penderyn eriod ddim yno. 'Ro'dd 'y meddwl i 'n mynd o hyd hwnt i'r mynydd 'na ato fe i Ferthyr. Wyt ti'n cofio'r llynedd shwd hwyl geso' ni gydag e'? Dim cystal eleni, 'n wir i ti! Ianto! sylwaist ti ar y 'Sgweier' echnos? Bachan! mae fe wedi mynd yn hen ar unwaith, a mae nhw'n gweyd taw gofid am Lewsyn sy' bron a'i ladd e'! Wn i yn y byd beth oedd yr achos iddo gael mynd mor sytan! Wel, fe ddaw'r cwbwl ma's rywbryd, tebig!"

"Bore da! Ianto!" "Bore da! Shams!"