Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1831, yr oedd sefyllfa pethau yng ngwlad yr haearn a'r glo yn waeth nag y bu yng nghof neb—yr hur yn llai, y nwyddau yn brinach, a'r dyledion yn myned yn drymach, trymach.

Nid oedd papur dyddiol yn y dywysogaeth, ac hyd yn oed pe bae, ychydig oedd y rhai fedrai fforddio i dalu am dano. Yr oedd Merthyr i bob pwrpas ymhellach o Gaerdydd neu Abertawe y dyddiau hynny nag yw oddiwrth Bwluwayo neu Singapore heddyw. Felly, rhaid oedd i dref Merthyr ei hun ennill neu golli yn yr argyfwng mawr o'i blaen.

Dacw hwynt—y werin anllythrennog yn cael eu cynhyrfu yn ol a blaen gan bob rhyw ddawn, ond yr oll yn diweddu mewn condemniad o'r meistri celyd— dim mwy, dim llai. "Dim!" ddywedais i? Welwch chwi mo'r newyn ymhob gwedd? mo'r awydd ymddial ymhob llygad?

Gyda hyn, dyna'r newydd yn rhedeg fel tan mewn sofl fod y milwyr yn dod. Ie, milwyr Waterlw, meddai pawb. Dyma hi ar ben arnom! Cawn ein gwasgu yn ol i'r hen delerau. a bydd bidog uwch ein pen fel yr oedd ffrewyll yr Aifftiwr uwchben Israel gynt!

Welwch chwi'r dyn ieuanc acw yn annerch ei gydweithwyr mewn geiriau eiriasboeth, ac yn eu cynhyrfu a'i frawddegau miniog? Os nad ydych yn ei adnabod, gwn am rai o hen ysgolheigion Gwern Pawl a wnai hynny ar unwaith. Y tafod ffraeth, y gwallt crych, a'r holl osgo annibynnol, yn union fel cynt, nis gallent berthyn i neb arall ond i Lewsyn yr Heliwr. Clywch beth a ddywed!—

"Fechgyn! ma' nhw'n gweyd fod y sowldiwrs yn dod! I beth? dybygwch chi? I beth hefyd, ond i'n gwneud yn slafiaid mewn gwirionedd a'n gorfodi i weitho yng Nghyfarthfa fel y gwnant i'r blacks neud