Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yna y gwelwyd y camsynied dybryd a wnaed o osod y milwyr yn rheng sengl ar y palmant, ac wedi diogelu bywydau y rhai o'r tu mewn trwy sicrhau y drws wynebai yr heol, y peth pwysicaf wedi hynny oedd diogelu bywydau y milwyr eu hunain oedd y tu allan a'u cefnau ar y mur.

Dro ar ol tro y rhuthrodd y dorf arnynt, a thro ar ol tro y daliwyd hwynt yn ol naill ai gan fidogau yr Ysgotiaid eu hunain ar y palmant, neu gan y saethu a wnaed dros eu pennau o'r llofft.

Anodd iawn fu y gwaith o dynnu milwyr yr ystryd, bob yn un ac un, i ddiogelwch. Yr unig ffordd i'w wneud bellach, gan fod drws y gwesty yn awr wedi ei gau, oedd eu symud gam a cham i gongl y tŷ, ac yna peri iddynt redeg, un yn awr ac un yn y man, oddiyno i ddrws mawr yard y gwesty yn yr heol groes.

Llwyddwyd i gyrraedd "dinas noddfa" gan bob un o'r Ysgotiaid oddigerth yr olaf ar ben y rheng. Yr oedd efe—cawr nerthol—wedi bod yn nôd i gynddaredd y dorf o'r dechreu, gymaint fu ei fedr a'i ddewrder y diwrnod hwnnw. Oblegid pan wedi ei guro i'w liniau, a'i faeddu nes llifai y gwaed dros ei wyneb, para i ymladd a wnai efe. Ac yn awr, wele yntau wrth gongl y tŷ yn paratoi i redeg fel ag y gwnaed gan ei gydfilwyr.

Ond wrth y gongl hefyd yr oedd Dic Penderyn, ynghyda'r rhai mwyaf penderfynol o'i gyfeillion yn mynnu ei rwystro i gyrraedd diogelwch. I ffwrdd ag ef, fodd bynnag, ac enillodd yr yard, ond gyda Dic a dau neu dri arall yn hongian wrth ei ystlys fel helgwn ar fedr tynnu i lawr lew eu helwriaeth.

Beth ddigwyddodd y tu ol i ddrws yr yard ni ddeuir byth i wybod gyda manylder mwy, ond yr oedd yr Ysgotiad dewr yn farw, a chyhuddid Dic o fod yn achos ei farwolaeth.