Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O barhau ei thaith heibio Pontprenllwyd a Threbanog, ceisiodd Beti feddwl mwy am bris ei nwyddau a gofynion ei chwsmeriaid nag am Ferthyr a'i thrafferthion; ond er ei holl ymdrech i anghofio'r cythrwfl, codai y gwallt "a'r haul arno" o flaen ei llygaid o hyd. Yr osgedd annibynnol a edmygai gymaint yng Ngwern Pawl gynt a welai hi eto ym Merthyr yn arwain y werin i wneud yr hyn a ewyllysiai ei pherchennog.

Pan ar fin cyrraedd pentref Hirwaun, clywai groch waeddi anarferol yn yr hwn yr unid seiniau digofus a chwerthiniad uchel yn un bonllef mawr.

Pan ddaeth i olwg Pont Nantybwlch, gwelai feirch y coach mawr yn carlamu i'w chyfarfod, a'u chwys yn ewynnu i'r llawr. Rhyw ganllath yn ol ar yr heol 'roedd y dorf yn rhedeg yn ol a blaen gan waeddi a thaflu eu breichiau o gylch fel hanner gwallgofiaid. Yr oedd yn amlwg bod yno gyffro mawr, er na wyddai yr eneth ar y pryd beth a'i hachosai. Ond pan y sylwodd ar nen y coach, buan y gwelodd yr hyn a'i perai, canys yno yr oedd y guard—Sais cyhyrrog a adnabyddai hi yn dda, o'i weled yn fynych—yn ymgodymu â rhyw ddeuddyn lawer llai eu maint nag oedd efe. Llwyddodd y guard i daflu un ohonynt i lawr dros ben yr olwyn i'r heol yn gynnar yn yr ornest, ond glynnai y llall ynddo,—a hyn achosai firi y dorf,—am gryn amser.

Parhau yr oedd y ddau i wthio ei gilydd ar y nen hyd nes yn nhro yr heol, a'r cerbyd eto yn teithio yn gyflym y bu agos i'r naill a'r llall golli eu traed. Yna, yn sydyn, cafodd y guard mawr fantais ar ei wrthwynebydd, a chyda thafliad chwyrn bwriodd y bychan yn glir o nen y coach i fôn y clawdd. Cyn gynted ag y cafodd hwnnw y llawr, neidiodd ar ei draed drachefn, ac wedi bygwth â'i ddwrn i gyfeiriad y cerbyd oedd, erbyn hyn, ymhell oddiwrtho, trodd yn ei ol i gyfarfod y dorf, ac yna y