Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII.—Y FFOADUR

UN noson ymhen tuag wythnos ar ol y gyflafan fawr o flaen Gwesty'r Castell, gellid gweled dyn yn cerdded yn llechwraidd i fyny heol Nantygwenith, gan dynnu ei gyfeiriad i rywle i'r gorllewin o Ferthyr. Oddiwrth ei gerddediad gellid casglu mai dyn ieuanc oedd efe, ond oddiwrth ei benwisg a'i wddfwisg bernid ef yn henafgwr, oblegid odditan ei het estynnai cadach a guddiai un ochr i'w wyneb ac a rwymid wedyn o amgylch ei wddf. Ymddangosai fel pe am osgoi cyfeillach pawb, a phan y cyferchid ef weithiau â " Nos Da " y brodorion, nid atebai ddim.

Hwn oedd Lewsyn yr Heliwr, a oedd wythnos yn ol yn gapten pum mil o wŷr, ond oedd heno yn ffoadur truenus, a phawb wedi cefnu arno. Yr oedd Dic Penderyn, ei gyfaill pennaf, a'i gyd-wrthryfelwr dewraf, eisoes yn y ddalfa, a gwyddai fod chwilio llwyr gan y cwnstabliaid amdano yntau. Newidiai ei le cysgu bob nos, a theimlai erbyn hyn nad oedd unlle ym Merthyr yn drigfod diogel iddo. Blinai yn fawr oherwydd yr holl helynt, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd gweled y rhai a frysient i wneud ei amnaid lleiaf ychydig ddyddiau yn ol, yn awr yn troi eu cefnau arno, ac yn edrych yn sur ar bopeth a awgrymai. Teimlai yn wir fod amryw o'i gydweithwyr bellach yn barod i'w werthu i'r awdurdodau, ac yn blysio am y gwerth gwaed a roddid am ei gael i'r ddalfa.

Felly, penderfynodd eu gadael am y diogelwch mwy a gaffai yn hen ardal ei febyd, o'r hon y gwyddai bob llecyn, ynghyda'r lliaws " dinasoedd noddfa " a gynhygiai gwigoedd ac ogofeydd gwlad y cerrig calch i