Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

draed a cherdded yn eon i lawr i'r Plas, lle yr oedd gynt,—O! dro ar fyd!—yn ffefryn pennaf. Ond gwyddai yn eithaf da mai gwallgofrwydd fyddai hynny yn awr, ac felly disgyblodd ei hun i fod yn amyneddgar. A'r hyn fu yn gymorth iddo wneud hynny oedd gweled dau aderyn bychan yn hedeg yn ol a blaen i'r un sypyn brwyn ryw ugain llath oddiwrtho i gyfeiriad y tondir.

"Ha!" meddai Lewsyn, "mi fynnaf weld!" Ac ar hyn dechreuodd ymlusgo ar ei dor tuag at y man i weled a oedd ei ddamcaniaeth yn gywir. "O ie!" ebe fe, "pump o larks! Da iawn, adar bach, porthwch nhw'n dda!" ac yna, ebe fe mewn ochenaid nas gallai ddal yn ol, "Dysgwch nhw i lwybro'n iawn wedyn!"

Ar ei ddychweliad i gysgod y maen drachefn, taflodd rai o friwsion ei gwd i gyfeiriad y nyth, a threuliodd ei amser i wylied prysurdeb y rhieni bychain gyda'u teulu pwysig.

Dygodd hynny i'w gof nyth glâs-y-dorlan ym Mryncul, ac am Beti, a Mari, a Gwern Pawl. Clywai wedyn y llaethferched yn galw'r gwartheg mewn mwy nag un fferm, a theimlai yr ergydion pylor yn cael eu tanio yng ngwar Crawshay cyn peidio'r llafur am y dydd,— popeth yn union fel y sylwodd ac y teimlodd ganwaith yn nhrefn brynhawnol yr ardal pan yn nhymor euraidd ei blentyndod.

Daeth i'w feddwl am y "cyfeillion chware" gynt,— llawer ohonynt yn ddiau ym mhentref y Lamb a Phontbrenllwyd oedd yn ei olwg y foment honno. A'r hen Scwlin! beth am dano yntau? A fyddai efe, rywbryd, 'wys, yn dweyd wrth ddisgyblion y dyfodol am osgoi ffyrdd Lewis Lewis, oedd yn arwain i goll cymeriad— a'r crocbren?