Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn yr efail, a'r ddihangfa rhag boddi yn y Porth Mawr. "A dyma fi," ebe fe, gan edrych i lawr ar ei ddillad gwlybion, "ymron starfo ac yn siwr o gael 'y nâla!

Beti! y'ch chi 'n clywed beth 'w i 'n weyd?"

Yr oedd Beti yn wir wedi clywed, ac ar y foment y tybiai efe fod ei meddwl yn absennol penderfynu yr oedd hi na chai efe na newynu na chael ei ddal os gallai hi mewn unrhyw fodd rwystro hynny. Ond yr unig beth a ddywedodd hi wrtho oedd,—"Dewch gyda fi!"

Cynorthwyodd ef i godi, a dygodd ef ar ei braich i'r ysgubor, ac wedi helbul mawr llwyddodd i'w gael i ddringo i ben y "cwpwl," a gwasgodd ef i gongl o dan y tô. Yna, gan ei adael am rai munudau dychwelodd o'r tŷ a basged yn ei llaw, ac wedi cylymu honno wrth goes y brwsh hir, a gedwid ymhob fferm i'r perwyl o wyngalchu tai yr anifeiliaid, estynnodd ben y brwsh gyda'r fasged ynglŷn wrtho i'r gongl o dan y tô. Ni siaradwyd yr un gair rhyngddi hi a Lewsyn yn hynny o waith, ond arhosodd Beti wrth fôn y "cwpwl " tra y bwytaodd efe yr ymborth, ac yna clywodd ef yn cylymu y fasged wâg wrth y brwsh drachefn, a thynnodd hithau hi i lawr yn dawel.

Nid cynt y gwnaeth Beti hyn nag y daeth un o'i brodyr i'r tŷ o'r maes i chwilio am rywbeth oedd yn ofynnol i'r gorchwyl mewn llaw, a mawr y curai ei chalon mewn pryder wrth feddwl am a allasai ddigwydd pe bae ef wedi dyfod yn ol ddeng munud cyn hynny.

Teirgwaith yn y dydd y tramwyodd y fasged i fyny i'r tô ar wâr y cwpwl ar ei neges o drugaredd, a theirgwaith y dychwelwyd hi wrth goes y brwsh yn ol llaw, ac erbyn hyn yr oedd Lewsyn wedi dysgu tro ei brydiau bwyd, sef yn gyntaf un ar ol godro yn y bore, yr ail ar ol i'r bechgyn ddychwelyd i'r meysydd oddiar ginio, a'r trydydd ym min hwyr.