Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hawdd fuasai i Beti osod nodyn yng ngwaelod y fasged i Lewsyn ei ddarllen, ond ni ddaeth gair oddiwrthi er bod y carcharor mewn mawr awydd am ei gael.

Ond yr oedd gwaeth yn ol.

Ar ol y pedwerydd dydd pallodd taith y fasged yn gyfangwbl, a theimlai Lewsyn ofid mawr am hynny. Ceisiai ddyfalu beth oedd a'i hachosai, a chredai ar y cyntaf mai rhaid bod Beti yn glâf, ond pan glywodd sŵn y clogs ar ei thraed o gylch y tŷ fel arfer, ceisiodd ddyfalu rhywbeth arall. Yn wir, meddyliodd am bopeth dichonadwy ond yn unig fod Beti wedi ei adael i newynu. Clywsai efe ers oriau leisiau dieithr gylch y buarth, ond rhywfodd ni chysylltai efe y rheiny a'i newid byd o gwbl.

Ac os oedd cyflwr meddwl Lewsyn yn resynus, yr oedd eiddo Beti yn waeth fyth; a'r hyn a'i llethai i'r llawr yn lân oedd y ffaith na allai egluro i'w hen gyfaill y rheswm am ball yr ymborth, na dal cymundeb ag ef mewn unrhyw fodd.

Fore y pedwerydd dydd ar ol dyfodiad Lewsyn i Hendrebolon daeth i'r buarth bedwar swyddog yn gofyn am y brawd hynaf. Gan fod y teulu wrth eu brecwast ar y pryd gofynwyd i'r dieithriaid ddyfod i mewn i gyfranogi â hwy ac i gael clywed eu neges.

Yr oedd yr awdurdodau wedi cael ar ddeall fod Lewsyn yr Heliwr yn ymguddio yn Ystradfellte, canys gwyddent am ei aros yn yr efail ym Mhenderyn ar ei ffordd tuag yno, ac am groesi ohono Waun Hepsta ar lâs dydd yn ol llaw. "Ac yn awr," ebe'r swyddog. "yr ydwyf, yn enw'r Brenin, yn gofyn am letya yma gyda chwi hyd nes y chwilia'm cydswyddogion bob ysgubor ac ystabl yn y cwm, ac y delir yr euog, a'i ddwyn i'r gosb a haedda."

Hyn a ddywedodd efe, nid o ran cynllun a bwriad, ond o weled Beti, druan, yn ymwelwi a chrynu pan