Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

soniwyd enw Lewsyn. Penderfynodd y swyddog ar unwaith ei bod hi yn gwybod rhywbeth am y ffoadur, a daeth i'w feddwl mai gwylied Beti yn fanwl a fyddai y ffordd rwyddaf i ddal yr hwn a geisient.

Felly, tra yr elai y tri swyddog arall allan drwy y dydd i chwilio ffermydd a beudai eraill y cwm, glynai hwn wrth ymyl Beti o fore hyd hwyr. Nid oedd gwahaniaeth pa un ai godro'r gwartheg neu fwydo'r moch y byddai hi, dilynai llygaid didrugarog y gŵr ar ei hol i bobman, a hithau ymron torri ei chalon o dosturi at ei hen gyfaill clwyfedig a newynai o dan y tô. Meddyliodd am gynllun ar ol cynllun i gael cefn y swyddog pe bae ond am ddigon o funudau i estyn rhywbeth i ben y cwpwl. Ond yr oedd y swyddog yn hen law wrth ei waith, a'r mwyaf i gyd y ceisiai hi gael ei gefn, mwyaf i gyd y tyfai ei sicrwydd yntau ei fod ar y llwybr iawn i ddal ei ddyn.

Ond ni wyddai Lewsyn am y pethau hyn, ac ni wyddai Beti am un cynllun yn ychwaneg a addawai lwyddiant iddi yn erbyn y swyddog calongaled hwn, ac yr oedd bellach dri diwrnod wedi myned heibio heb i'r ffoadur gael yr un briwsionyn i'w fwyta, ac ni ymddangosai addewid ymwared o unlle.

Yn hwyr ar ddydd olaf yr ympryd, dychwelodd y tri swyddog i'w llety fel ag y gwnaethent y dyddiau cyn hynny, ond eu bod hytrach yn waeth eu hwyl am na ddaliwyd yr hwn a geisient.

Treuliodd y prifswyddog y dydd hwnnw ychydig yn wahanol i'w arfer cyntaf, ac yn lle dilyn Beti o fan i fan, cymerodd arno ei fod yn ddiwyd gyda rhyw ysgrifennu swyddogol, h.y., pan oedd hi yn y tŷ, ond pan elai hi allan i'r tai anifeiliaid, ni edrychodd hi unwaith o'r fan honno at ffenestr y tŷ byw nad oedd ei wyneb ef yno yn syllu allan arni.