Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Awgrymai y chwilwyr mai gobaith gwan oedd ganddynt am ddal y troseddwr drannoeth, a rhifasant y ffermydd a'r lluestai oeddent eisoes wedi eu hedrych yn llwyr. "Peidiwch siarad mor ddigalon," ebe un o'r brodyr, "rhaid eich bod wedi pasio rhai ysguboriau. Deuaf fi a Gruffydd gyda chwi yfory, a chynorthwywn chwi yn yr ymchwil, oblegid, credwch fi, y byddwn ninnau mor falch o'i ddal ag a fyddwch chwithau."

Yna trefnwyd rhannu y fintai yn ddwy,-un i edrych y lleoedd oedd eto heb eu chwilio, a'r llall i ail-edrych y rhai a chwiliwyd eisoes. O gyfrwystra y gwnaed y cynllun hwn, fel ag i adael y ffoadur i gredu (os oedd yn eu gwylio hwy, fel y tybid ei fod, o ryw agen neu'i gilydd) mai un fintai yn unig oedd wrth y gwaith; a phan y meddyliai ef ei fod yn ddiogel oddiwrth honno, y syrthiai i ddwylaw y llall.

Ond nid oedd eisiau y cyfrwystra manwl hwn. Pan oedd y cwmni o gylch y bwrdd wrth eu swper, ac yn prysur ymddiddan am ddaearyddiaeth y dyffryn, wele gerddediad chwimwth y tu allan i'r ffenestr yn cael ei ddilyn gan agoriad chwyrn y drws, ac yno ar y rhiniog fel rhyw anifail rheibus yn barod i ruthro arnynt yr oedd Lewsyn!

Neidiodd y swyddogion a'r brodyr i'w traed fel un gŵr, ond cyn i neb ohonynt gyffwrdd âg ef, syrthiodd y ffoadur ar ei wyneb ar lawr y tŷ.

Rhedodd y brawd ieuengaf i'r gell a dychwelodd â llestraid o laeth ac a'i rhoddodd i'r truan. Hwnnw yn ei newyn a'i traflyncodd heb sylwi ar neb na dim, ac wedi ei yfed yn llwyr, a amneidiodd â'i law am ragor. Hynny hefyd a roddwyd iddo, ac wedi drachtio eto yr un mor chwannog, efe a bwysodd ei ben ar fraich y gadair y gosodwyd ef ynddi ac a guddiodd ei wyneb â'i ddwylaw.