Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, dwedwch wrthy' nhw heno, 'n eno dyn! Rhowch wybod iddy' nhw y stori i gyd, am 'n wilia â'r Sgweier, a'i ofyniad pendant ynte am i ni ddod gyda Gruff. Fe fentra boddlona nhw wedyn ar unwaith. Nid pob un sy a chymint o ffermydd ar 'i law i'w rhentu, cofiwch!"

"Dewch, Beti, towlwch yr hen ofan dwl 'na o'wrtho chi! Welais i ddim ohono fe genny' chi yng Ngwern Pawl, dim o'r fath beth. A chofiwch fod bywyd Lewsyn yn y dafol. 'Dwy' i ddim yn credu y gallwn ni wneud rhyw lawer drosto, mae'n wir, ond mae gen i ffydd fawr yn y Sgweier, a chi glywsoch beth 'wetws e'. Ond ar wahan i bopeth arall, bydd 'n gweld yno yn 'chydig o gysur i'n hen ffrind pan fo'r byd i gyd yn troi ei gefn arno."

"A chofiwch beth arall, 'd yw e' 'i hunan ddim yn gwybod, fel y gwyddom ni, fod y Sgweier yn gymint cyfaill iddo. Rhaid inni fynd, Beti fach! Rhaid yn wir!"

"Beth gawn ni wisgo, ferch? Fe ddof i a'm hen ŵn du dy' Sul wrth gwrs, 'does dim arall gen i werth idd 'i weld, gwaetha'r modd. Dyna be sy o fod yn ferch i ffermwr oedd yn well ganddo 'i ddiod na'i stock. Dyn helpo nhad, mae e 'n dad i fi trw'r cwbwl, a mae 'i yfed e' wedi bod yn ddigon o felltith iddo fe 'i hunan heb idd 'i ferch ei bardduo fel hyn yn 'i gefen. Ond am danoch chi, Beti, chi yw 'tifeddes Hendrebolon. Chi ddewch chi yn y'ch ' paish a betgwn,' neu chi ddylsech ddod, ta beth, waith mae nhw'n yn y'ch taro i'r dim, a fe glywais Lewsyn ei hun yn gweyd yn y Mabsant diwetha ond un, nad oedd neb yno'n ffit i ddala cannwyll i chi pan wisgoch chi nhw am y tro cynta'."

"A chan na alla i edrych 'y ngore yng Nghaerdydd, bydd ar y'ch llaw chi i wneud i fyny droson ni'n dwy. Cofiwch ddweyd wrth y'ch brodyr heno, a gwetwch yn ddishtaw bach wrth Gruff hefyd am beidio dishgwl arno i yn oes oesoedd os na llyngiff e' chi i ddod! Nos da."