Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Brysiwyd trwy Bontprenllwyd cyn i'r pentrefwyr yno sylweddoli fod cerbyd mawr y Plas wedi cael atgyfodiad.

Bu yr amgylchiad yn destun siarad mawr y dydd hwnnw, a siglwyd llawer pen gan bobl ddrwgdybus oedd yn mesur pawb "wrth eu llathen eu hun." Ond ni ddyfalwyd y gwir gan neb ohonynt er cymaint y dyfalu fu, oblegid ni wybuwyd eto am y teimlad caredig a ysgogai waith y ddwy eneth, a llai fyth am y bonedd pur a lanwai galon yr hen Ysgweier traws.

Tawedog iawn oedd y ddwy eneth ar gychwyn y daith, ond pan ddechreuodd yr hen ŵr ddangos iddynt wrthrychau mwyaf diddorol y cwm, aeth y siarad yn fwy cyffredinol. Nid oedd yr un ohonynt wedi teithio ymhellach nag Aberdâr cyn hynny, a phan ddaethpwyd allan i'r Basin a gweled camlas fawr Merthyr, ynghyda'r mulod a'u gyrwyr yn dwyn llwythi drosti i lawr i Gaerdydd, mwyaf i gyd elai y diddordeb.

Yr oedd gan y Sgweier amcan yn hyn oll, sef eu cadw rhag meddwl gormod am y dydd trist oedd o'u blaen. Ac wedi gwneud un cyfeiriad caredig at Lewsyn, a datgan ei hyder y deuai efe allan efallai yn well nag y disgwylid, trodd drachefn i ddiddori'r merched yng ngheinion Dyffryn Taf.

Ym Mhontypridd (neu yn hytrach Newbridge, fel y'i gelwid y pryd hwnnw) disgynnwyd o'r cerbyd er mwyn gweled y Garreg Siglo a Phont yr hen bregethwr, ys dywedai yr Ysgweier.

"Dyma hi, ferched!" ebe ef gan wenu, "yn well na dim o'i thebig gynhygiwyd gan neb arall erioed. Chware teg i'r hen bregethwr!"

Wedi hynny dringwyd i'r Cwmin i osod y Garreg Siglo i symud, ac i ryfeddu at gywreinrwydd yr hen Gymry yn meddwl am osod y fath feini yn eu lle. Ar y ffordd