Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ol at y bont, cymharwyd y maen hwn â Charreg Siglo Pontn'dd Fychan, a daliai Gruffydd mai er cystal eiddo Dyffryn Tâf, bod un Cwm-nedd "ar y blâ'n" yn ei feddwl ef, am ei bod yn fwy cywir ar ei hechel, ac felly yn hawddach ei chyffro, ac, yn wir, ei fod ef,— Gruff,-rywdro wrth fyned heibio iddi, wedi ei defnyddio i dorri cnau. Rhoddodd hyn ddifyrrwch mawr i'r Ysgweier, ac erbyn eu bod unwaith eto yng ngolwg Ifan a'r cerbyd, yr oedd efe ar ei uchel hwyliau ac yn ffraeth dros ben.

Yna ail-gychwynwyd, ac ymhen amser deuwyd ar gyfer Castell Coch, pan y cynheuwyd hyawdledd yr hen ŵr eilwaith wrth sôn wrthynt am wrhydri Ifor Bach yn yr amser gynt.

"Plwc! ferched bach. Giêm! i chi'n weld. Y petha' gore'n y byd!" Yna gwenodd arnynt drachefn, a daeth i feddwl y tri am yr hwn oedd yn awr mewn helynt dybryd am na thrôdd ei "blwc" i'r iawn gyfeiriad.

Wedi darfod sôn am rinweddau Ffynnon Tâf a'r nifer mawr a wellhawyd yno, yr oeddynt yng nghyffiniau Caerdydd, a'r tai unigol yn dechreu rhoi lle i ystrydoedd. Nid oedd Caerdydd y pryd hwnnw ond cymedrol o ran maint,—" Nid hanner cymint a Merthyr," mentrodd Gruff,—ond yr oedd y tai yn fwy destlus a rheolaidd, ac felly yn rhoddi gwell syniad o dre nag a wnai y twr poblogaeth oedd wedi tyfu o amgylch Cyfarthfa a Phenydarren.

Wedi dyfod ar gyfer y castell a gweled a chlywed ohonynt forwyr nad oeddent yn Saeson nac yn Gymry, aeth y syniad o bwysigrwydd Caerdydd yn uwch eto yn eu meddwl.

Ychydig yn nes ymlaen estynnodd y Sgweier ei hun allan o'r ffenestr i roddi cyfarwyddyd i Ifan, a throwd i lawr i groesheol, yn yr hon y safodd y cerbyd ryw chwech neu saith drws yn is i lawr.