Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XV—Y CAP DU

YNA cyhuddwyd pump arall o fod wedi ymgynnull yn wrthryfelgar mewn lle a elwid Hirwaun, ymhlwyf Aberdâr, Miskin Higher, ac wedi torri ar heddwch y brenin yn y man dywededig, a pheri anhwylusdod i'w ddeiliaid yn yr un lle dywededig.

Edrychai Beti yn fanwl ar wyneb pob un o'r rhai hyn hefyd ac i'w syndod teimlodd ei bod yn adnabod un ohonynt hwythau, ac wedi ei weled yn rhywle yn ddiweddar. Trethodd ei meddwl am ychydig, a chofiodd yn y man mai yr hwn a'i haflonyddodd ar Hirwaun, ac a osododd ei law ar ei basged gan waeddi,— "Menyn neu Waed, myn asgwrn i!" oedd efe.

Rhywfodd nid oedd ganddi yr un teimlad cas ato, ag yntau yn ŵr ar lawr fel ag yr oedd, ond yr oedd y gwahaniaeth rhwng ei agwedd lwfr yn awr a'i ystum ffug-arwrol y pryd hwnnw yn peri iddi wenu er gwaethaf popeth.

Yr oedd yntau, fel cyfaill Shams ar nen y Coach, yn hynod siaradus, ond nid oedd agos mor glir yn ei "stori " nac mor hunanfeddiannol yn ei thraethu, ag oedd hwnnw.

Honnai, pe credid ei air, nad oedd dyn diniweitach nag ef ar glawr daear, ac mai wedi ei gamgymeryd am rywun arall oedd yr holl dystion. Ni fu ei honiadau fodd bynnag o un budd iddo, oblegid cafodd, fel y lleill, " bum mlynedd " o alltudiaeth dros y môr, a diflannodd i lawr y grisiau gan barhau i siarad a thaeru. Yna, mewn distawrwydd a ellid ei deimlo, galwyd allan "Richard Lewis!" ac mewn atebiad dacw lanc oddeutu ugain oed yn sefyll i fyny.