Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyhuddwyd ef o fod, ar ddydd neilltuol, yn achos marwolaeth un Donald McDonald, mewn lle neilltuol o'r enw The Castle Hotel, ym mhlwyf Merthyr Tydfil. Hwn oedd Dic Penderyn glywsai y merched gymaint o sôn am dano. Llenwid eu mynwesau â thosturi mawr tuag ato; canys edrychai mor ddiddrwg ac mor anhebig o ladd neb pwy bynnag. Yr oedd hefyd mor wylaidd yn ei atebion, ac mor wyneb-agored yn cydnabod rhai pethau yn ei erbyn ei hun fel yr enillodd lawer i gredu o'i ochr.

Ond nid oedd dim yn tycio. Barnwyd ef yn " Euog " gan y rheithwyr, ac estynnodd y Barnwr am ei gap du, a chyda cryndod rhyfeddol yn ei lais, efe a'i condemniodd i farw. Nid oedd yno lygad sych yn yr holl dorf, plygodd Dic ei ben, a throdd yn dawel i ddilyn y swyddog yn ol i'w gell.

Yna, o rywle, galwyd allan mewn llais clir, "Lewis Lewis!" Cydiodd Mari yn llaw Beti a syllasant ill dwy ar y gwallt "a'r haul arno," yn dod i fyny heibio rheil y carcharorion. O! ai hwn oedd y bachgen glanwedd gynt? Edrychai Beti yn ol yn ei meddwl am dair blynedd i weled marchog y ceffyl gwyn yn myned i'r Bêcwns y Sul cyntaf yn Awst. Yna tremiodd i ymyl y swyddog drachefn a chuddiodd ei hwyneb â'i dwylaw. Yn nes ymlaen pan oedd y prawf wedi dechreu a thyst neu ddau wedi rhoddi eu tystiolaeth, syllai Beti yn graff ar y Barnwr a'r Rheithwyr i edrych a welai linellau o dosturi yno yn rhywfan. Yna galwyd Gruffydd Williams i roddi y ffeithiau a wyddai efe, ac er mawr syndod i Beti ei hun dywedodd ei brawd bopeth a allai i ffafrio y carcharor. Gwelwyd Lewsyn yn sychu ei lygad pan wnaed hyn, a chredai rhai ei fod ar fin llewygu. Ond camsyniad oedd hynny—ton