Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XVII.—MORIO I'R DE.

YMHEN tua mis ar ol y Treial yng Nghaerdydd gwelwyd llong yn ymadael o longborth Southampton a'i hwyneb i gyfeiriad y Werydd llydan.

Nid oedd iddi lwyth o nwyddau o un math, ac nid oedd perthynasau ar y lan yn ysgwyd cadachau i'r teithwyr. A rheswm da am hynny-llong yr alltudiedig oedd—ysgubion Prydain .Fawr yn ymadael a'r deyrnas er lles y wlad. Llundeinwyr oeddent gan mwyaf, rhai yn hen mewn anghyfraith ac eraill yn ddim ond bechgynnos ieuainc.

Ond yr oedd un peth yn gyffredin ar eu hwynebau oll, sef nôd y bwystfil, h.y., pechod a rhyfyg. Rhaid oedd i'r swyddogion ofalent am y llestr fod yn llym, ac hyd yn oed yn sarrug wrth yr alltudion, neu manteisid arnynt ar unwaith, ac felly cloid allan o'r ddwy ochr bob osgo at deimlad teg a dynoliaeth dda. Rhyfedd gynted y crëir awyrgylch o'r fath pan y llethir pethau goreu ein natur gyffredin.

Yr oedd y fordaith i fod yn un hir—chwe mis o leiaf—hwnt i Linell y Cyhydedd i foroedd y Dê, heibio y Cape of Good Hopc, a thair mil o filltiroedd yn ychwaneg cyn cyrraedd y tir oedd y pryd hwnnw yn uffern barod—Awstralia.

Nid oedd y daith ond tri diwrnod oed cyn y dechreuwyd cynllwyn, gan y rhai gwaethaf o'r fintai, i feddiannu'r llong a boddi pawb na chytunai yn yr anfadwaith. Ar yr ail ddec, yn ei gaban cyfyng, yr oedd Cymro, yr unig un ar y llestr, sef No. 27, ond a adnabyddwn