Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un noswaith, a hi yn boeth a thrymaidd iawn yn y "sied" ni fedrai Lewsyn gysgu. Chwyrnai ei gymydog nesaf fel anghenfil, ond o gwr pellaf y "sied" clywai y Cymro guro gwan yn iaith y Convict Alphabet. Gwrandawodd yn astud, ac i'w fraw mawr clywai gynllun gan bedwar o'r dynion, yn cael eu harwain gan ei elyn, i ladd y swyddog, ei wraig, ac yntau, dwyn yr eneth i'r "Bwsh" a llosgi y lle.

Yr oedd hynny i'w wneud cyn dydd, i gael bod yn sicr o'u gwaith, ebe nhw, "cyn bod yr adar yn codi o'u nyth."

Gwelodd Lewsyn nad oedd eiliad i'w golli, felly syrthiodd yn dawel o'i wely isel, a gosododd ei draed yn dyn yn erbyn gwaelod estyll mur y "sied," ac wedi gwasgu yn dawel a'i holl nerth, daeth yr hoelion allan yn y man hwnnw.

A'i gymydog eto'n chwyrnu gwthiodd Lewsyn ei hun allan trwy yr agoriad, a rhedodd, fel ag yr oedd, at dŷ y swyddog. Dringodd i ben casgen ddwfr, yna i ben gody bychan, ac oddiyno drwy ffenestr i'r llofft. Gwyddai y man y cysgai y teulu, a churodd wrth y drws, yn ddistaw ar y cyntaf, ac wedi hynny yn uwch.

"Hello!" ebe llais o'r tu mewn, "Speak! or I shoot!"

"Don't shoot! Mr. Peterson!" ebe yntau, " I am No. 27—Lewis, you know,—coming to try to save you!"

"Come in, No 27!" ebe yntau yn ol, ac yna wedi agor y drws yn gìl agored, dywedodd Lewsyn yr hyn oll a glywodd, a'i fod yn barod i ymladd gyda'i swyddog i amddiffyn y teulu. Yn gyntaf dim diogelwyd Mrs. Peterson a'r eneth o dan y gwely, ac wedi cael llawddryll gan Mr. Peterson. arosasant eill dau am ymosodiad y mileiniaid llofruddiog.