Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rywfaint o flaen yr amser, ond pan y sylweddolwyd ystyr y cynhwysiad neidiasant mewn llawenydd, a Jessie fach gymaint a neb.

Rhedodd Mr. Peterson i lawr i'r "sied," a phwy oedd yn dyfod allan ohoni ar y pryd ond Lewsyn. Pan welodd hwnnw gyffro y swyddog caredig meddyliodd ei fod am unwaith wedi gwallgofi, oblegid daliai y llythyr uwch ei ben ag un llaw, ac estynnai y llall tuag ato pan oedd efe eto ugain llath oddiwrtho. Wedi ei gyrraedd ac ysgwyd llaw, a braich, er na wyddai Lewsyn eto am ba beth yn y byd, ac yna ysgwyd llaw drachefn a thrachefn, cafodd ei lais o'r diwedd, a gostyngodd ef ddigon i ddweyd,—"Mr. Lewis! I congratulate you! You are a free man!"

Yna edrychwyd yn fanwl dros y llythyr, a chyn eu bod wedi ei ddiweddu yn llwyr eisteddodd Lewsyn i lawr ar y llethr yn ymyl yr heol, a chyda gwefus grynedig parablodd—"Diolch i Ti, O Dad! Cadw fi rhag drwg, er mwyn Dy enw mawr. Amen!"

Ni wyddai Mr. Peterson beth a barablai, ond yr oedd yr osgo yn ddigon o fynegiant i galon mewn cydymdeimlad. Dywedodd wrth ei wraig mewn amser wedi hyn, er na ddeallai, wrth gwrs, yr un gair ohoni, na chlywodd gywirach gweddi erioed.

Aeth yr Ysgotyn caredig i'r "sied" gan adael Lewsyn wrtho ei hun am ryw gymaint, a d'wedodd ar ei fynediad i ganol yr alltudion,—"No work to-day, boys! No. 27—I beg your pardon—Mr. Lewis is a free man!" Ac yna esboniodd iddynt ystyr y llythyr.

Pan ddaeth Lewsyn ar ei ol mewn tipyn—pum munud galetaf ei fywyd oedd derbyn llongyfarchiadau y trueiniaid. Daethant i fyny ato yn un ac un—a phaham na addefir y gwir yn llawn—yr oedd dagrau o'r ddwy ochr. Llaesodd y wynebau celyd, erlidiwyd delw y Fall allan o'r llygaid, a daeth rhyw fwynder