Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XX.—"EDRYCH TUAG ADRE'"

PAN hwyliodd y llong fawr i lawr Port Jackson gan ledu ei hadenydd i awelon y Dê, eisteddai un o'r teithwyr ar ei bwrdd fel pe mewn heddwch a'r hollfyd, ac yn sugno mwynhad o bob morwêdd newydd.

"Pwy feddyliai," ebe fe wrtho ei hun, "fod y fath borth a hwn, yn borth anobaith a distryw i gynifer?" Ac aeth ei feddwl yn ol i'r "sied" yn Wallaby Station, lle yr oedd ei gymdeithion diweddar yn trigo heb obaith ganddynt "ac heb Dduw yn y byd." Llanwyd ei galon â thosturi, a phenderfynodd hyd eithaf ei allu i wneud rhywbeth drostynt pan y cyrhaeddai Brydain drachefn.

Ac i'r perwyl o ddechreu gweithredu ar y penderfyniad hwnnw eisteddodd i lawr y foment honno, a thynnodd allan o'i logellau nifer o bapurau bychain, a chopïodd yn ofalus oddiwrthynt i'w ddyddlyfr newydd enw a chyfeiriad pob un ar a addawodd ymweled â hwynt yn yr hen wlad drostynt.

"Mi a'u gwelaf i gyd," ebe fe, "pe cymerai imi flwyddyn i'w wneud!" "Pa ragoriaeth oedd i mi arnynt hwy fel y gwelodd Rhagluniaeth yn dda i mi ddod yn rhydd ac iddynt hwythau aros yn eu caethiwed?" Yn y teimlad gwylaidd hwn aeth i'w gaban a chysgodd gwsg yr uniawn.

Bore trannoeth yr oedd y llestr allan o olwg y tir a dechreuodd y teithwyr edrych ar ei gilydd a pharatoi i gymdeithasu y naill â'r llall. Er gwell, er gwaeth yr oeddynt i fod yn gyd-ddinasyddion am o leiaf chwe