Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awgrymu unfrydedd pob un a'i chwedl ganddo. Mae rhai o'u tystiolaethau tarawiadol wedi eu derbyn o bryd i bryd, hyd yn lled ddiweddar, wedi eu hir gadwraeth, fel pe er mwyn gwasgu o honynt fân—hanesion ddichon fod yn llechu ynddynt o dymmor eu tarddiad hyd eu tyfiad a'u haddfediad. Mae tystiolaethau lleol o'r fath yn ffeithiau nas gellir yn hawdd wneyd i ffwrdd â hwy. Gan hyny, na fydded i'r darllenydd ein dal yn gyfrifol am groniclo hen draddodiadau oddiar dafod-leferydd gwlad, tra yr ydym yn rhoddi ein hawdurdod i fyny yn ddifloesgni. Nid edrych allan am ffeithiau hanes ddylid mewn llên gwerin ond yn hytrach casgliad o chwedlau rhamantaidd a barddonol a adroddid ar hirnos auaf, &c. Felly nid yw ond ofer i'r dosbarth flug—sangetaidd ysgwyd eu penau a gofyn y peth yma a'r peth arall—am nodwedd egwyddor pob chwaeth a chwant—y drwg a'r da—y paham a'r pa fodd, &c. Dylid hefyd ystyried nad rhaid i bob hanesydd, o angenrheidrwydd, gredu yn ngwirionedd yr holl weddillion a gasgla efe yn nghyd.

Gwneir llên gwerin i fyny gan liaws o wahanol amgylchiadau, a phob amgylchiad yn dwyn cyssylltiad uniongyrchol neu annuniongyrchol a'u gilydd, fel ag y mae y dolenau yn gyssylltiedig â'u gilydd mewn cadwyn; ac nis gellir esbonio na rhoddi y goleuni priodol ar unrhyw un amgylchiad, heb gymhorth goleuni amgylchiad arall, hyd nes rhoddi cnoc, yn mron, ar holl ddolenau y gadwyn. Felly, y mae yr amgylchiadau ag sydd yn gwneyd i fyny Lên Gwerin Sir Gaernarfon yn rhwym wrth gynnorthwy goleuni lliaws o amgylchiadau siroedd ereill—pell-berthynol, fe ddichon, er hyny angenrheidiol tuag at eu gwneuthur hwy—eu hesbonio a'u deall. Y mae hanes llên gwerin, fel pob hanes arall, yn cael ei wneyd i fyny o nifer o achosion ac effeithiau, a bydd yr