Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhai arferol o'u canlyn yn cael eu curo ganddynt nes byddent yn gleisiau.

Gosodid hwy allan fel teuluoedd yn preswylio yn rhywle o dan wyneb y ddaear, a'u bod yn mwynhau yn eu cilfachau rywfath o gysgod o ddedwyddwch, a rhith o orwychder, yr hwn er hyny a gyfnewidient yn dra ewyllysgar am fwynderau mwy sylweddol marwolion. Llywodraethid hwy gan frenin a brenines—Oberon a Titania. Byddai y Penaethiaid yn marchogaeth ar geffylau cyn wyned a'r llaeth, ac yn arfer gwisgo y tu hwnt i ddarluniad o ran prydferthwch. Yr oedd eu gwlad yn annghyffredin o gyfoethog a phrydferth, yn llawn o ystafelloedd godidog, gwleddoedd gorwych, gwinoedd melusion, a rhianod harddach na merched dynion. Ond os digwyddai i rhyw weledydd goruwchnaturiol edrych arnynt, canfyddai nad oedd yr holl arddangosfa ond twyll; yr aur a'r perlau yn ddim amgen na llechau neu geryg; na phydferthwch eu cyrff yn ddim ond gwrthuni i'r eithaf; ac y mae yn ymadrodd cyffredin hyd heddyw am un fyddo'n byw mewn modd hynod ac annghyffredin, heb neb yn gwybod o ba le y mae yn cael ei gynnaliaeth ei fod yn byw ar dir y tylwyth teg," h.y., trwy foddion anadnabyddus.

Hen bobl a ddywedent eu bod i'w clywed yn chware eu hofferynau cerdd fin nos hir-ddydd-haf, nes byddai y bryniau yn dadseinio eu melysber gerddoriaeth, a thybid y gwelid ol eu traed bychain yn y cylchau lle yr arferent gorelwi ar hyd y dolydd, y caeau gwair, a'r bryniau; ac oddiwrth hyny y cawsant yr enw Cylchau neu Fodrwyau y Tylwyth Teg. Pe digwyddasai i ddyn fyned heibio iddynt ar adeg gwledd o lawenydd a dawns buasai yr atyniad yn gymaint fel mai anmhosibl fyddai iddo fyned oddiwrthynt heb gael ei gipio i mewn i'r cylchau, ac nid oedd modd yn y byd gael dyn allan oddiwrthynt, heb gael dyn arall